Mae tîm criced Morgannwg wedi colli o wyth wiced yn erbyn Gwlad yr Haf yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast yng Nghaerdydd.

Tarodd Will Smeed 66 i osod y seiliau i’r Saeson wrth iddyn nhw gwrso 172 i ennill, a hynny ar ôl i Craig Overton a Jack Brooks gipio tair wiced yr un i’r Saeson ar noson siomedig i fatwyr y sir Gymreig.

Roedd Morgannwg yn 53 am bump ar un adeg, cyn i’r capten Kiran Carlson (71) a Timm van der Gugten (48) ddod ynghyd ac adeiladu partneriaeth allweddol o 91 i roi llygedyn o obaith i’w tîm.

Batio gwael

Ar ôl cael eu gwahodd i fatio, roedd Morgannwg yn 14 am dair o fewn pedair pelawd agoriadol yr ornest wrth golli tair wiced mewn pelawdau olynol.

Cafodd Will Smale ei fowlio gan Jack Brooks, cyn i Billy Root gael ei ddal gan Craig Overton oddi ar ei fowlio’i hun, gyda Sam Northeast hefyd wedi’i fowlio gan Brooks.

Daeth ychydig o adferiad i’r sir Gymreig erbyn diwedd y cyfnod clatsio wrth iddyn nhw gyrraedd 52 am dair.

Ond collon nhw eu pedwaredd wiced yn y seithfed pelawd pan gafod Chris Cooke ei ddal yn gelfydd gan Kasey Aldridge ar y ffin, yn ei gêm ugain pelawd gyntaf i’r Saeson, oddi ar fowlio Overton.

Roedden nhw’n 53 am bump yn ddiweddarach yn yr un belawd wrth i Cam Fletcher, sydd ar fenthyg am wythnos, gael ei ddal gan Sean Dickson.

Partneriaeth allweddol cyn llithro eto

Erbyn i Timm van der Gugten ymuno â’r capten Kiran Carlson yn y seithfed pelawd, roedd Morgannwg mewn dyfroedd dyfnion.

Ond cyrhaeddodd Carlson ei hanner canred bedair pelawd yn ddiweddarach, a hynny ar ôl taro pum pedwar a thair ergyd chwech, ac fe aeth yn ei flaen i guro’i sgôr gorau erioed mewn gemau ugain pelawd.

Roedd ei bartneriaeth gyda Timm van der Gugten yn werth 91 erbyn iddo fe gael ei ddal gan Shoaib Bashir oddi ar fowlio Josh Davey am 71 yn yr unfed belawd ar bymtheg, gyda Morgannwg bellach yn 144 am chwech.

Roedden nhw’n 146 am saith pan gafodd van der Gugten ei ddal ar ymyl y cylch gan Tom Abell yn niwedd yr un belawd, ac yn 147 am wyth pan yrrodd Ruaidhri Smith at Tom Kohler-Cadmore oddi ar fowlio Ben Green yn y belawd ganlynol.

Wrth fynd am ergyd fawr yn y belawd olaf ond un, cafodd Andy Gorvin ei ddal wrth dynnu pelen fer gan Green at Dickson ar y ffin i adael Morgannwg yn 170 am naw gyda phelawd yn weddill o’r batiad.

Cafodd Jamie McIlroy ei fowlio gan Brooks yn y belawd olaf, wrth i Forgannwg gael eu bowlio allan am 171 gyda thair pelen yn weddill o’r ugain pelawd.

Cwrso’n ddi-drafferth

Dylai Morgannwg fod wedi cipio’u wiced gyntaf oddi ar belen ola’r ail belawd, pan wnaeth Billy Root ollwng Will Smeed, gyda’r bêl yn tasgu dros y ffin am chwech oddi ar fowlio Jamie McIlroy, oedd wedi ildio ugain rhediad yn ei belawd gyntaf.

Ond daeth y wiced hollbwysig pan gafodd Tom Banton ei ddal yn safle’r goes fain gan Andy Gorvin oddi ar fowlio Ruaidhri Smith, i adael yr ymwelwyr yn 40 am un ar ôl pedair pelawd.

Roedd Gwlad yr Haf ar y blaen o dipyn ar ddiwedd y cyfnod clatsio, ar ôl cyrraedd 65 am un o gymharu â 52 am dair Morgannwg ar yr un adeg yn y batiad.

Roedd yr ymwelwyr yn edrych yn gyfforddus tua’r hanner ffordd, gyda Smeed yn cyrraedd ei hanner canred a’i dîm yn 100 am un.

Daeth batiad Smeed i ben ar 66 pan yrrodd e’r bêl i lawr corn gwddf Smale oddi ar fowlio Smith, gyda’i dîm yn 124 am ddwy yn niwedd y deuddegfed pelawd, ond yn dal mewn sefyllfa gref.

Cyrhaeddodd Tom Kohler-Cadmore ei hanner canred yn ystod y bymthegfed pelawd wrth i Wlad yr Haf ymlwybro tua’r fuddugoliaeth, ac roedd e heb fod allan ar 61 pan seliodd ei dîm y fuddugoliaeth gydag 17 o belenni’n weddill.

Yn sgil y canlyniad, mae’n debygol y bydd angen i Forgannwg ennill pob gêm – a dibynnu ar ganlyniadau timau eraill – er mwyn bod â gobaith o gyrraedd rownd yr wyth olaf.