Fel rhan o bartneriaeth arbennig eleni, mae golwg360 yn noddi Tegid Phillips, y Cymro Cymraeg o Gaerdydd sy’n chwarae i dîm Siroedd Cenedlaethol Cymru y tymor hwn. 

Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Glantaf, mae’r troellwr a batiwr llaw dde wedi chwarae i Brifysgol Caerdydd (Cardiff UCCE), yn ogystal ag Academi ac ail dîm Morgannwg, ac i dîm y brifddinas hefyd. Chwaraeodd ei gêm gyntaf i Siroedd Cenedlaethol Cymru yn erbyn Cernyw yn 2019, ac mae’n nodi mai Scarborough yn Swydd Efrog yw’r cae gorau y chwaraeodd e arno hyd yn hyn.

Fel rhan o’n partneriaeth, mae Tegid yn rhannu ei feddyliau gyda ni drwy gydol y tymor – yr uchafbwyntiau, yr iselfannau a mwy.


 

Gyda’r tymor criced nawr wedi dechrau ac yn brysur iawn, mae nifer o bethau i edrych ymlaen atyn nhw, a llawer i edrych ’nôl arno dros yr wythnosau diwetha’. Un uchafbwynt, mae’n rhaid dweud, yw’r tywydd! Gyda chyfnod gwlyb ac oer ar ddechrau’r tymor, mae’n hen bryd bo ni’n cael y tywydd hyfryd yma i allu chwarae criced heb unrhyw rwystrau sydd allan o’n rheolaeth.

Mae tîm Siroedd Cenedlaethol Cymru wedi cael dechrau heriol i’r tymor. Yn anffodus, wnaethon ni ddim llwyddo i gyrraedd Finals Day y T20, gyda gemau wedi’u gohirio oherwydd y tywydd, a gyda cholli dwy gêm yn erbyn Swydd Bedford wnaethon ni ddim llwyddo i fynd drwodd.

Fe wnes i fethu rhai o’r gemau T20 oherwydd oedd dal genna’i anaf i fy nhroed, ond ers hynna mae fy nhroed wedi gwella a dw i wedi gallu chwarae criced eto heb unrhyw drafferthion.

Yn anffodus, rydyn ni wedi colli’r ddwy gêm gynta’ ym mhencampwriaeth undydd yr NCCA, gartref yn erbyn Swydd Stafford ac i ffwrdd yn Wiltshire. Er hyn, mae dal gobaith i’r tîm gyrraedd chwarteri’r bencampwriaeth os allwn ni ennill y ddwy gêm olaf, gartref yn erbyn Dorset ac i ffwrdd yn Swydd Buckingham. Dw i wedi bod yn rhan o’r garfan am y ddwy gêm gyntaf, ond wedi bod yn 12th man ar y ddau achlysur. Mae’n gallu bod yn rhwystredig bod yr un sydd ddim yn chwarae allan o’r garfan weithiau. Ond mae’r amodau yn y ddwy gêm gyntaf wedi meddwl bod bowliwr cyflym wedi bod yn fwy ffafriol na throellwr fel fi, ac mae hyn yn rhan o fywyd cricedwr.

Gobeithio dydd Sul yma fydd genna’i gyfle i fod yn rhan o’r unarddeg sy’n chwarae pan ydyn ni’n croesawu Dorset i gae Panteg, lle dw i’n gobeithio fydd yr amodau bach mwy spinner friendly. Os oes gennych chi brynhawn rhydd, dewch lawr i wylio, mae’n dechrau am 11yb yng Nghlwb Criced Panteg, ddydd Sul, Mehefin 18.

Dechrau amrywiol i Gaerdydd

Mae fy nghlwb cartref i, Caerdydd, wedi cael dechrau digon amrywiol i’r tymor, gyda thair buddugoliaeth, dwy golled, a dwy gêm wedi’u gohirio oherwydd y tywydd. Rydyn ni’n ffeindio’n hunain yn chweched yn y tabl ar y foment, ond gyda rhai gemau haws yn dod lan yn yr wythnosau nesaf, dw i’n meddwl allwn ni wneud camau i fyny’r tabl.

Uchafbwynt y tymor hyd yn hyn oedd curo Casnewydd i ffwrdd gydag un belen i fynd. Fe wnaethon ni chasio 260, sydd yn sgor eithaf uchel yn ein cynghrair ni, ac mae bob tro yn deimlad da curo Casnewydd! Uchafbwynt arall oedd gweld Prem Sisodiya yn sgorio 197 heb fod allan yn erbyn Port Talbot. O’n i’n ffodus iawn i allu bod yn batio gyda Prem pan wnaeth e sgorio’r rhediadau yma, ac roedd yn bleser gallu gwylio chwaraewr proffesiynol yn bwrw’r bêl mor lân. Mae’n sicr yn fatiad wna’i fyth anghofio. Fel clwb, rydyn ni’n anelu i orffen yn y pedwar uchaf yn Uwch Gynghrair De Cymru eleni. Dw i’n credu bo ni’n sicr yn gallu cyrraedd y targed yna gyda charfan gryf eleni, ac os ydyn ni’n cario ’mlaen i chwarae criced da, does dim rheswm i ni beidio gorffen yn y pedwar uchaf.

Dechrau da i Forgannwg

Mae Morgannwg yn cael tymor eitha’ da ar hyn o bryd, wedi ennill pedair allan o saith gêm yn y T2O Vitality Blast ac yn bedwerydd yn Ail Adran Pencampwriaeth y Siroedd. Ar hyn o bryd, mae’n edrych fel bod rhannu’r swyddi hyfforddi rhwng y ddwy gystadleuaeth wedi helpu Morgannwg i allu perfformio’n dda yn y ddwy – rhywbeth sydd wedi bod yn bach o her iddyn nhw yn y blynyddoedd diwetha’.

Lloegr a’r Lludw

Yn amlwg, gyda’r Lludw yn dechrau ymhen rhai dyddiau, mae’r cyffro o gwmpas criced yn rili bositif, ac mae’n neis gweld lot o sylw i’r gêm ar hyn o bryd. Bydd yn ddiddorol gweld sut mae ewyllys ‘Baz Ball’ Lloegr yn dal dŵr yn erbyn Awstralia, y tîm sydd newydd ennill y World Test Championship Final yn erbyn India. Yn amlwg, mae wedi bod yn llwyddiannus iawn i Loegr hyd yn hyn, ond dw i’n credu fydd Awstralia yn cynnig sialens wahanol, a dw i’n edrych ’mlaen i weld sut fydd y gyfres yn troi ma’s.

Rhagfynegiad ar gyfer y gyfres: Lloegr 2 – Awstralia 3. Ond gewn ni weld be’ fydd yn digwydd cyn bo hir!

Tegid Phillips yn bowlio

Tymor Tegid: Rhan 1

Fel rhan o bartneriaeth rhwng Criced Cymru a golwg360, mae Tegid Phillips yn rhannu ei feddyliau drwy gydol y tymor criced