Alun Rhys Chivers sy’n bwrw golwg yn ôl ar flwyddyn lwyddiannus mewn sawl maes eleni…
Pe bai ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ yn cael ei chwarae bob tro mae Cymro neu Gymraes yn ennill medal neu gystadleuaeth chwaraeon, byddai ein hanthem genedlaethol wedi cael ei chlywed ddegau o weithiau ar lwyfan y byd eleni. Fe fu 2021 yn sicr yn flwyddyn euraid i ni ym myd y campau.
O Gerwyn Price yn dod yn bencampwr dartiau’r byd i dlws cwpan undydd tîm criced Morgannwg, ac o’n tîm rygbi cenedlaethol yn ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad i’r holl sêr Olympaidd a Pharalympaidd a gyrhaeddodd y podiwm, digwyddodd cyfran helaeth o’r llwyddiannau yng nghysgod Covid-19, a hynny heb dorfeydd.
Bois y dartiau ar dân!
Roedd awgrym o’r cyfnod euraid oedd i ddod i’r byd dartiau yng Nghymru eleni pan gododd y ddeuawd Gerwyn Price a Jonny Clayton Gwpan y Byd ym mis Tachwedd 2020. Roedd 2021 yn flwyddyn lwyddiannus i’r ddau unigolyn, gyda Price o Markham yn Sir Caerffili yn dod yn bencampwr byd a Clayton, y Cymro Cymraeg o Bontyberem, yn ennill y Meistri a’r Uwchgynghrair.
Doedd neb arall o Gymru yn hanes y gamp wedi ennill Pencampwriaeth y Byd y PDC, ac roedd yn rhaid i’r cyn-chwaraewr rygbi Price drechu’r Albanwr Gary Anderson i godi’r gwpan nôl ym mis Ionawr. Fe wnaeth e hynny’n gyfforddus o 7-3 yn yr Alexandra Palace yn Llundain. Mae’n deg dweud y bu bron i’w nerfau ei drechu, wrth iddo fethu 11 dart i gipio’r ornest, ond ei fod e hefyd ar ei orau wrth dorri’r record yn y chweched set am y cyfartaledd set gorau erioed (136.64) ar lwyfan y byd. Fe gododd e i frig y rhestr ddetholion yn sgil y fuddugoliaeth, ac mae’n dal i fod yno 12 mis yn ddiweddarach.
Ar ôl ymddangos yn yr Uwchgynghrair fel gwestai, roedd Clayton ym Milton Keynes fel cystadleuydd am y tro cyntaf eleni. Ar ôl trechu’r Iseldirwr Michael van Gerwen yn y rownd gyn-derfynol, Jose de Sousa oedd yn aros amdano yn y rownd derfynol, ac fe enillodd e’n gyfforddus o 11-5 i sicrhau’r tlws a lle yn y gystadleuaeth eto’r flwyddyn nesaf, yn ogystal â “rhoi Pontyberem ar y map”. Dyma’r tro cyntaf i Gymro ennill y gystadleuaeth.
Roedd Clayton yn y gystadleuaeth ar ôl dod yn bencampwr y Meistri ar ddechrau’r flwyddyn. Fe gurodd ei ffrind Mervyn King o 11-8 yn rownd derfynol y gystadleuaeth honno, y tro cyntaf iddo ennill pencampwriaeth ar y teledu. Fe wnaeth e orffen gyda chyfartaledd tri dart o 104, lle yn yr Uwchgynghrair ac enw da sy’n mynd o nerth i nerth i’r plastrwr o Sir Gaerfyrddin ac i’r byd dartiau yng Nghymru.
Tlws Chwe Gwlad ond dim Camp Lawn hirgron
Pan gafodd Wayne Pivac ei benodi’n brif hyfforddwr ar y tîm rygbi cenedlaethol, mae’n siŵr fod dal gafael ar dlws y Chwe Gwlad yn uchel ar ei restr flaenoriaethau, er mwyn adeiladu ar Gamp Lawn 2019. Ond gyda’i ragflaenydd Warren Gatland bellach yn brif hyfforddwr y Llewod, roedd 2020 o dan Pivac yn dymor siomedig. A phrin fod neb yn disgwyl i 2021 fod fawr gwell.
Bydd y Chwe Gwlad eleni’n cael ei chofio am nifer y cardiau coch gafodd gwrthwynebwyr Cymru, ac fe ddechreuodd y cyfan gyda Peter O’Mahony ar ôl 14 munud o’r gystadleuaeth a’r gêm yn erbyn Iwerddon, ar ôl iddo daro Tomas Francis yn ei ben â’i benelin. Arhosodd Iwerddon yn gryf, ond Cymru aeth â hi o 21-16.
Murrayfield oedd lleoliad yr ail gêm yn erbyn yr Alban, gyda Chymru’n fuddugol o 25-24 yn erbyn 14 dyn unwaith eto ar ôl i Zander Fagerson daro pen Wyn Jones â’i ysgwydd.
Cipiodd y Crysau Cochion y Goron Driphlyg gyda buddugoliaeth o 40-24 dros yr hen elyn. Ond roedden nhw’n ffodus gyda dau gais – y naill oddi ar gic gosb gyflym i Josh Adams, a’r llall ar ôl awgrym cryf fod Louis Rees-Zammit wedi bwrw’r bêl ymlaen cyn i Liam Williams groesi.
Gyda buddugoliaeth swmpus o 48-7 dros yr Eidal yn Rhufain, roedd gobeithion Cymru o ennill y Gamp Lawn wedi’u hoelio ar y penwythnos olaf yn erbyn Ffrainc. Ond colli o 32-30 wnaethon nhw, ac roedd hi’n edrych fel pe bai eu gobeithion o ennill y gystadleuaeth yn deilchion. Ond mewn gêm a gafodd ei haildrefnu, fe drechodd yr Alban y Ffrancwyr – eu buddugoliaeth gyntaf ers dros ugain mlynedd ym Mharis – gan olygu mai Cymru oedd y pencampwyr.
Diwrnod i’r brenin i gricedwyr Morgannwg
Does dim amheuaeth mai cystadleuaeth y Can Pelen oedd i fod i ddwyn sylw’r byd criced yng Nghymru yn 2021, gyda Chaerdydd yn gartref i’r Tân Cymreig am y tro cyntaf ar ôl gohirio’r gystadleuaeth newydd y tymor diwethaf. Ond doedd Morgannwg ddim am gael eu gwthio i’r cyrion.
Gyda chyn lleied o dlysau ar hyd y blynyddoedd, mae tymhorau mwyaf llwyddiannus y sir “yn diferu oddi ar dafod fel mêl”, fel yr ysgrifennodd y bardd a chefnogwr criced Dafydd Rowlands rywdro. Mae 2021 a’u buddguoliaeth yn y gystadleuaeth 50 pelawd, Cwpan Royal London, wedi’i hychwanegu bellach at dlysau 1948, 1969, 1993, 1997, 2002 a 2004.
O ganlyniad i’r Can Pelen, roedd Morgannwg yn gwybod y bydden nhw heb nifer sylweddol o’u prif chwaraewyr ar gyfer y twrnament. Ond ar y llaw arall, byddai’n gyfle i rai o’r to iau gael cyfle i serennu yn eu habsenoldeb. Ac fe wnaeth un ohonyn nhw, gyda’r chwaraewr amryddawn Joe Cooke yn sgorio hanner canred ac yn cipio pum wiced yn erbyn Essex yn y rownd gyn-derfynol – y chwaraewr cyntaf yng nghrys Morgannwg i wneud hynny mewn gêm undydd Rhestr A ers Peter Walker yn erbyn Cernyw yn 1970.
Yn Trent Bridge ac nid yn Lord’s, cartre’r byd criced, roedd y rownd derfynol, a Durham oedd y gwrthwynebwyr. Kiran Carlson, y batiwr o Gaerdydd, oedd yn gapten yn absenoldeb Chris Cooke, ac fe arweiniodd e drwy esiampl gyda sgôr o 82 i osod y seiliau. Ond seren y sioe oedd Andrew Salter, y troellwr o Sir Benfro, gyda thair wiced am 42 yn ddigon i gipio gwobr seren y gêm ac i ddod â’r tlws yn ôl dros Bont Hafren, gan wneud yn iawn am dymor siomedig dros ben yn y Bencampwriaeth gyda dim ond dwy fuddugoliaeth.
Ewros am yr eildro – a chofio Gary Speed
Ar ôl cael haf euraid yn yr Ewros yn Ffrainc yn 2016, roedd cryn edrych ymlaen at Ewro 2020, gyda’r disgwyliadau ychydig yn uwch nag arfer. A fyddai tîm Rob Page yn gallu efelychu tîm Chris Coleman oedd wedi cyrraedd y rownd gyn-derfynol?
Gydag UEFA yn dathlu 60 mlynedd yn 2020, penderfynodd y corff llywodraethu ymhell cyn Covid y bydden nhw’n mynd â’r gystadleuaeth i bob cwr o’r cyfandir – tasg ddigon anodd fel arfer, ond hyd yn oed yn fwy cymhleth yng nghanol pandemig.
Roedd cryn gwyno cyn y gystadleuaeth am faint o deithio fyddai angen i Gymru ei wneud, ac fe ddechreuon nhw yn Baku gyda gêm gyfartal 1-1 yn erbyn y Swistir. Roedd y fuddugoliaeth wedyn o 2-0 yn erbyn Twrci yn ddigon iddyn nhw fynd drwodd. Colli wnaethon nhw wedyn o 1-0 yn erbyn yr Eidal yn Rhufain yn eu gêm grŵp olaf.
I Amsterdam wedyn i herio Denmarc yn rownd yr 16 olaf, ond roedd y gêm un cam yn rhy bell wrth i ymgyrch ddigon teilwng orffen gyda chrasfa o 4-0. Daeth y flwyddyn i ben yn y ffordd orau posib hefyd, wrth iddyn nhw sicrhau eu lle yng ngemau ail gyfle Cwpan y Byd yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Gwlad Belg. A hynny ddegawd ar ôl colli Gary Speed, oedd mor allweddol wrth gael y bêl i rowlio.
Mae tîm y merched, o dan reolaeth Gemma Grainger, hefyd mewn sefyllfa gref i gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd 2023. Collon nhw am y tro cyntaf yn eu gêm olaf eleni yn erbyn Ffrainc, ac maen nhw’n dal yn ail yn eu grŵp gyda phedair gêm yn weddill. Mae hynny’n golygu y dylen nhw gyrraedd y gemau ail gyfle o leiaf, ond bydd angen iddyn nhw herio Ffrainc eto ym mis Ebrill.
Haf euraid ar y trac ac yn y maes
Roedd hi’n flwyddyn euraid i athletwyr o Gymru hefyd, gyda digon o lwyddiannau unigol ac fel aelodau o dîm Prydain ar y trac, yn y maes, ar y cae chwarae, yn y cylch, ar gefn ceffyl ac ar y dŵr yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo.
Roedd gan Gymraes ran bwysig i’w chwarae yn y Gemau o’r dechrau’n deg, wrth i’r hwylwraig Hannah Mills gario baner Prydain yn Tokyo, cyn mynd yn ei blaen i ennill medal aur a dod yn brif enillydd medalau Prydain erioed. Roedd medal arian i Lauren Williams yn y taekwondo, ond collodd Jade Jones yn y rownd gyntaf fel ei bod hi’n mynd adre’n waglaw.
Roedd arian hefyd i Elinor Barker ar y trac seiclo ac i Tom Barras yn y rhwyfo. Roedd dwy Gymraes, y cwpl Leah Wilkinson a Sarah Jones, yn rhan o dîm hoci Prydain enillodd y fedal efydd, a dwy efydd i ddau Gymro, Joshua Bugajski ac Oliver Wynne-Griffith, yn wythawd rhwyfo’r dynion. Enillodd Matt Richards a Calum Jarvis fedal aur yr un yn y ras gyfnewid 4x200m yn y pwll nofio. Ond y gamp fwyaf, efallai, oedd y fedal aur i Lauren Price yn y paffio pwysau canol, y fedal aur Olympaidd gyntaf erioed i baffiwr o Gymru. Roedd yn ddigon iddi gipio gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru eleni.
Roedd 14 o fedalau o blith 21 o athletwyr o Gymru yn y Gemau Paralympaidd – Jim Roberts (rygbi cadair olwyn, aur), David Smith (boccia, aur), Aled Siôn Davies (taflu pwysau, aur), Laura Sugar (caiacio, aur), Paul Karabardak (tenis bwrdd, arian ac efydd), Tom Matthews (tenis bwrdd, efydd), Beth Munro (taekwondo, arian), James Ball (seiclo, arian), Hollie Arnold (gwaywffon, efydd), Olivia Breen (naid hir, efydd), Harri Jenkins (100m cadair olwyn, efydd) a Georgia Wilson (dressage, dwy fedal efydd).
Gyda’r holl lwyddiannau hyn a mwy yn 2021, bydd hi’n anodd rhagori arni ym myd y campau yn 2022. Ai hon fydd blwyddyn Elfyn Evans ym myd ralïo ar ôl gorffen yn ail i Sébastien Ogier unwaith eto eleni? All Jonny Clayton efelychu Gerwyn Price? A beth am Mica Moore ac Adele Nicoll, yr athletwyr sy’n anelu am aur yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf? Hyn a llawer mwy yn rhifyn cyntaf Golwg yn 2022.