Mae hanes Cymru’n llawn o straeon amdanon ni’n rhwygo ein gilydd yn ddarnau… rhybudd Ifan Morgan Jones ydi fod peryg i’r un peth ddigwydd eto efo YesCymru… wrth i’r mudiad gynnal cyfarfodydd i drio rhoi stop ar ffraeo’r misoedd diwetha’…
“Os na fydd yr ymladd llwythol yma’n dod i ben rŵan, mi fydd yr hyn sydd wedi ei adeiladu tros y pum mlynedd ddiwetha’ gan YesCymru yn cael ei chwythu i ebargofiant… Mae llawer o ddifrod eisoes wedi ei wneud.
Mae pwysigrwydd YesCymru’n mynd y tu hwnt i freuddwyd annibyniaeth. Mae ei bresenoldeb hefyd yn darian i amddiffyn datganoli, a chenedligrwydd Cymru ei hun, rhag ‘unoliaethyddiaeth gyhyrog’ San Steffan. Os bydd YesCymru’n chwalu, fell hefyd y bydd rhan allweddol o’r amddiffynfa wleidyddol yna… Mae’n amser i bawb ddod at ei gilydd ac ailadeiladu.” (nation.cymru)
Ond, chwarae teg, mae un achubwr ar y gorwel, yn ôl John Dixon. Nid Arthur nac Owain, ond Boris. Dyma ran o restr borthlas.blogspot.com o lwyddiannau BoJo hyd yn hyn …
“Cryfhau’r Undeb Ewropeaidd: mae’r aelod-wledydd sy’n weddill wedi cael eu huno’n glosiach nag erioed gan bwysau Brexit a’r sôn am eraill yn gadael fwy neu lai wedi peidio.
Undod Gwyddelig: Does yr un Prif Weinidog Prydeinig erioed wedi gwneud cymaint â Johnson i roi diwedd ar y rhaniad ac ailuno ynys Iwerddon.
Annibyniaeth i’r Alban: … trwy ddefnyddio pob gallu sydd ganddo i ohirio ail refferendwm, mae’r Prif Weinidog wedi cynyddu’r gobaith o lwyddo mewn modd dramatig.
Annibyniaeth i Gymru: Er nad yden ni yno eto, mae llywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig wedi llwyddo i droi diddordeb ymylol yn gynnig sy’n cael ei drafod yn eang…”
Ac yn yr Alban, mae Mike Small yn cofio be gafodd ei ddweud adeg y refferendwm yn 2014 wrth wrthwynebwyr annibyniaeth …
“Ai dyma wnaethoch chi bleidleisio drosto? Ai dyma oeddech chi wedi’i ddychmygu? Ydi hyn yn well nag ethol eich llywodraeth eich hun? Mae rôl Johnson yn hyn yn allweddol. Cofiwch mai fe oedd yr ‘arweinydd na all neb ei ddychmygu’… Wel, bobol, r’yn ni oddi ar y map nawr. R’yn ni’n byw mewn Byd Na All Neb Ei Ddychmygu.” (bellacaledonia.org)
Draw ar thenational.wales, mae cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn awgrymu bod pethau ar fin mynd yn waeth wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gynnig eu bod yn cael osgoi dyfarniadau llys …
“Rhaid i Weinidogion y DU ddeall bod rhaid iddyn nhw, fel pawb arall, ildio i’r gyfraith. Allan nhw ddim bod mewn sefyllfa ble maen nhw nhw – a dim ond nhw – yn gallu osgoi dilyn y gyfraith wrth wneud penderfyniadau. Dyna’r ffordd at led-unbennaeth a byddai’n dinistrio’r egwyddorion sy’n sail i wladwriaeth y Deyrnas Unedig.”