Mae’r wlad i gyd i’w gweld yn Galeri Caernarfon ar hyn o bryd, yn rhan o sioe Agored 2021 – gyda gwaith 40 o artistiaid o bob cwr o Gymru a gafodd eu dethol a’u gwobrwyo gan banel arbenigol. Dyma rai ohonyn nhw i sôn am eu gwaith…
Llyr Evans – ‘Salem Newydd’
Dw i’n 21 oed ac yn fy ail flwyddyn yn Central St Martin’s College yn astudio Fashion, Communication and Promotion – lot o weinyddu, a threfnu sioeau ffasiwn. Mi wnes i hwn tua mis Mai, ar ôl dod adre o Lundain yn gynnar. Adra ydi Llanallgo, Ynys Môn, ac mae’r capel yma tua 10 medr o’n tŷ ni. Dyma le o’n i’n mynd i Ysgol Sul. Mae ‘Salem’ yn llun mor eiconig dydi – ro’n i eisio’i wneud o’n rhywbeth yn cynrychioli gwerthoedd sy’n cael eu dal gan bobol ’fengach… Herio’r drefn ychydig bach.
Mi wnes i ddechrau tynnu lluniau pan o’n i’n ifanc efo camera disposable, a gwneud TGAU Ffotograffiaeth yn Ysgol Amlwch pan o’n i’n 14 oed ac yna Lefel A Ffotograffiaeth.
Fy nhad sydd yn y llun, a dw i’n gweithio ar y funud ar 100 o luniau ohono fo. Mae o’n gefnogol iawn o fy ffotograffiaeth. Mae o’n ddyn a hannar! Mae’r cyfnod clo wedi newid agwedd pobol – mae pethau yn dod yn fwy cyfoes. Dw i’n meddwl bod yna angen lluniau neu ddelweddau newydd. Dw i ddim eisio offend-io neb efo’r lluniau. Dw i ddim eisio tynnu neb i lawr.
Llinos Owen, ‘Bruised Fingertips’ – gwobr ‘Canmoliaeth Uchel’
Gwlân ydi o, neu yarn, ar hessian. Yn draddodiadol mae’r dechneg yn cael ei ddefnyddio i wneud carped llawr. Mi wnes i ei ddechrau yn ystod y cyfnod clo. Ro’n i’n astudio Celf yng Ngholeg Celf Wimbledon, ac roedd rhaid i fi ddod adre i Gaernarfon. Ro’n i heb ofod stiwdio, ac mi wnes i ffeindio’r dechneg ar y We a dechrau arbrofi adra. Mae wedi troi i fod yn brif gyfrwng i mi. Mae pob darn dw i wedi ei greu ers blwyddyn wedi ei seilio ar y dyddiadur yma ro’n i’n ei gadw yn ystod y cyfnod clo. Roedd lot ohono’n seiliedig ar anxiety, a theimlo bach yn unig. Roedd o yn ffordd o ymdopi – mae’r dechneg yn eitha’ therapiwtig am ei fod yn cymryd mor hir. Ro’n i’n gwneud tecstiliau cyn y cyfnod clo, ond mi wnes i ffeindio’r rug punching a’r tufting bryd hynny.
Dw i’n byw yn ne Llundain, a dw i newydd gael stiwdio am y tro cyntaf ers y brifysgol. Mae gen i nifer o arddangosfeydd ym mis Ionawr – 40 mlwyddiant Cwrs Sylfaen Bangor yn Storiel, Gŵyl Neithiwr yn Pontio, un yn Llundain, a sioe agored RCA Conwy. Mi gefais sioc yn cael Canmoliaeth Uchel. Roedd hi’n fraint. Mae’r arddangosfa yn stunning.
Lowri Drakely, ‘Y Wawr’
Yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r enw ydi’r ffaith ei fod o’n rhywbeth newydd i fi. Ro’n i’n gweithio’n llawn amser i’r Adran Waith a Phensyniau am bum mlynedd, ond cyn hynny ro’n i wedi gwneud gradd ym Manceinion mewn brodwaith. Roedd fy nghreadigrwydd i wedi cael ei esgeluso dros y ddeng mlynedd ddiwethaf. Roedd Covid yn reality check, a theimlais mai nawr yw’r amser i mi ganolbwyntio ar fy mhractis creadigol fy hun.
Dw i’n byw rhwng Rhosybol yn Ynys Môn lle mae cartref fy rhieni, a Llanrug lle mae fy nghariad. Dw i wrth fy modd bod allan ym myd natur. Dyna sut dw i wedi dechrau defnyddio lliwiau naturiol. Dw i’n licio mynd i le bric-a-brac a hel tecstiliau. Roedd gen i lwyth o ddillad gwely… a ro’n i eisio gwneud rhywbeth efo nhw. Mi wnes i greu’r cwilt yma yn Safle Creu Galeri dros yr haf – roeddwn i’n ffodus iawn i gael y lle am y mis a defnyddio’r safle fel gweithdy. Roedd gen i samples, ac yn dangos beth roeddwn i’n lliwio nhw efo fo – betys, rhedyn, eithin… pethau sydd i’w cael o gwmpas Rhosybol. Rydan ni reit ar bwys Mynydd Parys. Roedd pobol yn gweld y broses, felly mae o’n neis ei fod o rŵan ar y wal.
Booker Skelding – ‘Our Religion’
Dw i’n defnyddio ffotograffiaeth fel therapi. Cefais fy magu gyda fy Nan yn Senghennydd. Roedd Nan yn Gristion mawr, a bydden ni’n mynd i’r eglwys ar waelod y stryd. Ar ôl iddi hi farw, ac ar ôl i mi sylweddoli fy rhywioldeb, roeddwn i’n teimlo na allwn i fod yn fi fy hun yn yr eglwys, ac roedd yn rhaid i mi guddio fy mywyd teuluol. Roeddwn i’n wahanol. Roedd y plwyfolion o genhedlaeth hŷn – rydyn ni’n sôn am ddiwedd yr 1980au, dechrau’r 1990au, mewn pentref bach glofaol lle mae meddyliau’n gul a phawb yn siarad am bawb.
Dw i nawr yn 50. Mae’r eglwys yn arbennig iawn i mi. Tua saith mlynedd yn ôl roedden nhw’n ei gwerthu hi a’i chynnwys i gyd. Es i lawr i geisio prynu un o’r corau (y seddi) ond ro’n i’n rhy hwyr, ac mi fues yn tynnu lluniau pobol yn cerdded allan yn cario’r corau… Roedd fel galar. Fe barodd hynny i mi ddechrau tynnu lluniau o’r chwaer eglwys. Eglurais wrth y deiacon un diwrnod fy mod i’n cael anhawster ag ymarfer fy nghrefydd oherwydd fy mod i’n hoyw, a fy mod yn ei golli’n fawr. Dywedodd e bod croeso mawr i mi yno. Dw i bellach wedi adfer fy ffydd. Dechreuodd y project yma dan yr enw ‘Losing my Religion’, ond mae bellach wedi ei droi ar ei ben. Maen nhw wedi fy nghroesawu i.
Gan na allwn i ymarfer fy nghrefydd, mi gefais i datŵs crefyddol ar fy nghorff. Fel yr un o’r Sant Christopher a roddodd fy Nan i mi. Cefndir Catholig sydd gan fy mhartner ac fe allwch chi weld adenydd angel ar ei chefn. Mae’r llun yn dweud ‘ry’n ni’n gariadus, ac yn caru crefydd’. Mae’r ddau beth yn cyd-fynd. Ar lamp y glöwr mae rhif fy nhad, 413. Mae stori fy mywyd ar fy nghefn.
Lora Gwyneth, ‘Hers & Hers’
Dw i’n 23 oed. Dw i’n byw yn Ninbych, newydd symud yn ôl o Leeds lle ro’n i’n astudio Celf Gain. Mae ‘Hers & Hers’ yn herio ymgorfforiad trosiadol merched fel trophy women… Beth wnes i geisio’i wneud oedd arddangos ffigurau o safbwynt cryf. Gan eu bod nhw’n dal eu pennau i ffwrdd o’r gynulleidfa, mae’n dangos sut maen nhw’n cymryd rheolaeth drostyn nhw eu hunain eto.
Yn y brifysgol ro’n ni’n edrych ar driniaeth merched, yn enwedig o ran online dating a hela, a sut mae’r ddau beth yn gyfochrog i’w gilydd. Mae pobol yn ymddwyn yn wahanol ar-lein, does yna ddim cymaint o consequences. Yn fy mhrofiad i, dw i wedi cael negeseuon erchyll.
Carrie Francis, ‘Derelict Heritage – Maerdy Colliery’
I ddechrau roedd y llun yn ymateb i wobr Disability Arts Cymru o dan y teitl for ‘Outdoors Indoors’. Trodd yn rhywbeth hollol wahanol yn y diwedd. Y storfa bwmp yn y darlun yw’r unig adeilad sy’n dal i sefyll o’r hen lofa. Ym Maerdy mae’r teimlad am Streic 1984 ac 1985 a thranc y diwydiant glo yn dal i gael ei deimlo’n gryf iawn. Dw i’n byw yn Ferndale, y dref agosaf.
Fi roddodd y graffiti i mewn. Dyna’r sloganau arferol cyfnod y Streic – ‘Coal Not Dole’, a ‘Maggie the Milk Snatcher’. Pan fydda i’n gwneud darn ar y pwnc yma, mae’n ennyn ymateb cryf iawn gan bobol leol. Cefais fy synnu’n fawr bod y llun wedi ei ddewis ond ro’n i’n falch iawn. Roedd y sioe yn agored i bobol o bob rhan o Gymru, ac mae yna amrywiaeth eang o dalent.
Agored 2021, Galeri, Caernarfon, tan 15 Ionawr 2021