Mae’r band o Geredigion yn ôl gyda sengl newydd sbon, a bydd yna albwm allan yn y flwyddyn newydd…

Bron i bedair blynedd ers cyhoeddi’r albwm gwych Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc, mae Mellt yn dychwelyd gyda sengl arallfydol… ac mae albwm newydd sbon danlli ar y gorwel yn y flwyddyn newydd.

Fe wnaeth Mellt eu marc yn 2018 gan ennill gwobr Albwm Cymraeg Gorau’r flwyddyn.