‘Affricerdd’ yw enw cywaith rhwng pum cerddor o dras Affricanaidd, a phum artist dawns…
Yn y flwyddyn newydd, fe fydd yna bum cerddor o dras Affricanaidd yn cydweithio gyda phum artist dawns ar ffilmiau byrion a fideos cerddorol.
Mae cynllun Affricerdd y cyrff Tŷ Cerdd a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn estyniad o’r project Plethu, sydd wedi bod yn dod ag artistiaid dawns a chrewyr cerddoriaeth at ei gilydd.
“Mae prosiectau â chydweithredu’n ganolog iddynt yn rhan o fy uchelgais a’m gweledigaeth ar gyfer y Cwmni Dawns Cenedlaethol,” meddai Cyfarwyddwr Artistig y Cwmni, Matthew Robinson, “ac mi’r ydw i’n edrych ymlaen at weld canlyniad y partneriaethau yma ar draws ffurfiau ar gelfyddyd yn y pum ffilm newydd.”
Mae’r holl weithgaredd yn rhan o fenter newydd o’r enw Tapestri, sydd wedi cael ei ariannu gan raglen Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru i greu archif gerddorol fyw o bobol, ieithoedd a chymunedau Cymru. Fe fydd y pum ffilm i’w gweld rhwng Ionawr a Gorffennaf 2022.
June Campbell Davies, coreograffydd ac artist carnifal o Gaerdydd, yw un o’r dawnswyr sy’n rhan o ‘Plethu: Affricerdd’. Fe fydd hi’n gweithio gyda Seun Babatola (sy’n perfformio o dan yr enw Mista B), rapiwr a cherddor o dras Nigeraidd, sy’n cyfansoddi caneuon am faterion cymdeithasol.
Mae hi wedi arfer gweithio gyda cherddorion o gefndiroedd amrywiol, gan ei bod hi’n rhan o Gôr ‘Oasis One World’, ac yn cynorthwyo ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn y brifddinas ers 2016. “Ry’n ni’n dysgu caneuon o ddiwylliannau gwahanol,” meddai June Campbell Davies. “Mae yna awyrgylch gyfeillgar iawn.”
Cafodd Côr Oasis One World eu gwahodd i ganu ar y gân ‘Tangnefedd’ gyda’r delynores Catrin Finch a’r rapiwr Ed Holden ar gyfer gŵyl Llangollen eleni. “Daeth hi lawr i ganolfan Oasis i recordio ni’n canu,” eglura June. “Roedd yna rywun o Irac a oedd yn gantores opera – fuodd hi yn benthyg ei llais, dynes arall o Nigeria a oedd hefyd yn soprano, a rhywun o Irac a oedd yn chwarae offeryn gwahanol. Felly mae yna le i arbrofi.
“O gofio hynny, dw i’n reit agored i ba bynnag thema y byddwn ni’n gweithio arni, i chwarae gyda symudiad a cherddoriaeth.”
Cafodd Seun Babatola ei eni yn Nigeria ond fe dreuliodd ei flynyddoedd cyntaf yng Nghaerdydd, a byw wedyn yn Ibadan (Nigeria), Llundain a Birmingham, cyn dychwelyd i Gymru. Mae’n creu miwsig o dan yr enw Mista B sy’n amrywio o break-beat i fetel i trip-hop.
“Dw i’n edrych ymlaen at weithio gydag ystod o bobol sy’n mynd at y celfyddydau mewn gwahanol ffyrdd,” meddai Mista B wrth Golwg. “Dw i eisoes wedi newid fy ffordd o fynd ati i sgrifennu caneuon, gan fy mod i’n meddwl mwy am symud corfforol ac yn cysylltu hynny ag offeryniaeth ac arddull. Mae’n wahanol iawn i fy ffordd arferol o feddwl ‘dw i’n ei hoffi a dyna ni’.”
Dymuna Mista B groesawu pobol Cymru i’r cywaith Affricerdd, eu hannog i gymryd rhan “a chadw meddwl agored am y mathau o gelf rydyn ni’n cymryd rhan ynddyn nhw,” meddai. “Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â mwy na defnydd yn unig, mae’n ymwneud â phontio bylchau diwylliannol, sydd hyd yn oed yn bwysicach ar hyn o bryd.”
Nid deilen grin
Mae June Campbell Davies yn dawnsio ers blynyddoedd maith, ac yn gyndyn o ddatgelu ei hoedran – fe fyddai pobol yn synnu ei bod hi wedi bod yn dawnsio gyhyd, meddai. Mae hi’n perfformio gyda Chwmni Dawns Striking Attitude – y cwmni i berfformwyr hŷn.
Un o Lundain yw hi’n wreiddiol, a symudodd i Gaerdydd yn yr 1980au, wrth i S4C sefydlu ei hun, a dawns yn dechrau dod yn fwy poblogaidd. “Ro’n i’n rhan o gymuned ddawns fach iawn yng Nghaerdydd,” meddai.
Fe fyddai’n gwneud gwaith panto i Gwmni Chwarae Teg, ac yn dysgu addysg uwch drwy gwmni Rubicon Dance. Dros fisoedd yr haf daeth hi’n rhan o garnifal stryd Abertawe tua 2000, ac yna’r carnifal yng Nghaerdydd. Am weddill y flwyddyn byddai hi’n dysgu dawns yn Rubicon neu’n gweithio’n llawrydd lle byddai galw am athro dawns neu goreograffydd.
“Roedd fy merch yn fach, ac fel mam, mae llawer o’ch gwaith yn dod yn ail i fagu’r teulu,” meddai June Campbell Davies. “Fe gadwodd y dysgu fi i fynd, a’r carnifal. Bellach, mae fy merch wedi tyfu lan, a dw i wedi penderfynu dychwelyd i wneud ychydig bach o waith theatr.”
Rai blynyddoedd yn ôl fe weithiodd gyda’r National Theatre Wales yn y Rhyl am dri mis, yn yr awyr agored. “Roedd hynny’n wirioneddol ddiddorol fel perfformiwr,” meddai. Gweithiodd wedyn ar broject celfyddydol ar hyd afon Gwy, eto yn yr awyr agored gydag artistiaid gwahanol. “Roedd hynny eto yn addysgiadol, ac roedd y cyhoedd yn cymryd rhan,” meddai.
“Gyda’r pandemig, roedd popeth felly yn ansicr braidd. Daeth yn amlwg mai creu gwaith ar gyfer llwyfannau digidol neu Zoom oedd y ffordd yr oedd pethau’n mynd. Mi wnes i osgoi hynny am ychydig, ond mae angen parhau fel artist, ac mae’n rhaid i chi ddod o hyd i ffordd o weithio.”
Ym mis Mai eleni, cafodd ei dewis ar gyfer comisiwn i ddatblygu gwaith ar gyfer Artes Mundi 9, a chreodd waith i gyfeiliant darn sain gan ei merch, Ffion Campbell Davies, sydd yn berfformiwr aml-gyfrwng.
Yna dyma glywed am broject Plethu: Affricerdd, a phenderfynodd fynd amdani. Fe fydd hi a Seun Babatola/Mista B yn dechrau ar eu ffilm ym mis Mawrth 2022.
“Mae’n eithaf diddorol – dydych chi ddim yn cael dewis gyda phwy rydych chi’n gweithio,” meddai. “Rydych chi wedi eich rhoi gyda’ch gilydd, yn dibynnu ar eich cais, wedi’ch rhoi gyda grŵp neu artist. Mewn un ffordd mae hynny’n eithaf cyffrous, ond mae hefyd ychydig yn frawychus hefyd. Rhaid datblygu perthynas, a chael sgyrsiau ar yr hyn yr hoffem ei ddweud a’i weithio. Mae hynny i gyd yn newydd.”
Pedair partneriaeth arall y cywaith Plethu: Affricerdd yw…
Idrissa Camara ac Eric Martin Kamosi
Mae Eric Martin Kamosi yn gitarydd a cherddor electronig sy’n creu cerddoriaeth werin, roc, electronig a minimalaidd. Buodd Idrissa Camara yn brif goreograffydd gyda llawer o gwmnïau dawns amlwg yng ngwledydd Gini a Senegal ac mae’n arloeswr o ran dysgu’r ddawns i’r rhai sydd â nam ar eu clyw.
Kitsch’n’Sync ac E11ICE
E11ICE yw enw rapio a chanu Thalia Ellice Richardson, a gafodd ei geni yng Nghernyw ac sy’n byw yng Nghaerdydd. Menter theatr dawns gydweithredol o Gaerdydd yw Kitsch & Sync.
Rosanna Carless a Sizwe Chitiyo
Cafodd y canwr a’r cyfansoddwr rap 23 oed Sizwe ‘SZWÉ’ Chitiyo ei eni yn Harare, Zimbabwe, ond mae e bellach yn byw yng Nghaerfyrddin. Ar ôl chwarae setiau acwstig o gwmpas Cymru mentrodd greu gwaith electronig dair blynedd yn ôl. Un o Aberystwyth yw Rosanna Carless, sydd bellach yn byw yn Llundain ac yn ymarfer dawns stryd. Mae hi wedi gweithio gyda chwmnïau fel HSBC a Sony yn ogystal ag artistiaid cerddorol fel Giggs, STylo G a Wiley.
Gundija Zandersona a Jeferson Lobo
Cafodd y cerddor, y cyfansoddwr a’r cynhyrchydd Jefferson Lobo ei eni ym Mrasil ac mae nawr yn byw yng Nghaerdydd. Perfformwraig a choreograffydd o Latfia yw Gundija Zandersona sydd hefyd yn byw yng Nghaerdydd ac yn gyfarwyddwr gweithredol Kokoro Arts Cyf.