Mae Cymraes ifanc sy’n siarad chwe iaith wahanol yn troi yn yr un cylchoedd â rhai o ddiplomyddion a gwleidyddion amlycaf Paris, yn ogystal â chyn-Arlywydd sydd wedi ennill Gwobr Nobel.

Yn wreiddiol o Flaenau Ffestiniog, mae Elin Roberts draw yn Ffrainc yn cyfuno’i hastudiaethau gyda gwaith rhan amser gyda thîm allforio Llysgenhadaeth y Deyrnas Unedig yn Ffrainc.