Ar ôl dau berfformiad arbennig yr wythnos yma, mae Cymru wedi cyrraedd Gemau Ail Gyfle Cwpan y Byd. Neu fel maen nhw’n dweud ar y strydoedd y playoffs!

Roedd ein playoff cyntaf ni yn 1958 yn erbyn Israel dros ddwy gêm. Roedd sawl gwlad arall wedi gwrthod chwarae yn erbyn y wlad newydd ddadleuol, ac fe benderfynwyd bod yn rhaid i Israel chwarae o leiaf un gêm er mwyn ennill lle yn nhwrnamaint Cwpan y Byd yn Sweden.