Dw i’n sgwennu hwn ychydig yn gynt yr wythnos hon – nid oherwydd trefnusrwydd, ond i osgoi gwaith DIY.

Ma’ ’na fabi arall yn cyrradd tŷ ni cyn bo hir iawn, welwch chi… a ma’ ’na lot i neud.

Ond fel y gallwch chi ddychmygu, falle, o ddarllen y golofn hon yn rheolaidd, DIY ain’t my thing.

Ma’ ’na ddrôrs lan stâr sy’ ddim ’di agor yn iawn ers 2016 (ma’ ’ngwraig i’n honni bod hyn oherwydd eu bod nhw ben i waered).