Mae bod yn wrthblaid yn gallu bod yn hawdd ofnadwy, neu’n ddychrynllyd o anodd.

Yn sefyllfa San Steffan, y rhan fwya’ o’r amser, mae’n gymharol hawdd… gwrthwynebu, beirniadu a gwadu y byddech chi, dan yr un amgylchiadau, yn gorfod gwneud yr un peth.

Dydi’r dacteg yna ddim o angenrheidrwydd am arwain at fuddugoliaeth mewn etholiad ond, o ran tactegau ar y pryd, does dim angen gormod o grafu pen.