Mae rhai yn dadlau nad oes lle i wleidyddiaeth yn y byd chwaraeon, a bod angen cadw popeth yn niwtral a neis-neis er mwyn peidio â phechu neb.

Ond nid felly Prif Weithredwr newydd y Gymdeithas Bêl-droed.

Mewn cyfweliad difyr gyda rhaglen BBC Politics Wales tros y penwythnos, roedd yn dweud – pe bai Cymru yn cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd 2022 yn Qatar – y byddai yn gyfle i drafod hawliau dynol gyda’r wlad sy’n cynnal y carnifal ffwtbol.