Mae’r hwyliwraig o Gymru, Hannah Mills, wedi ennill medal aur, sy’n golygu mai hi nawr yw’r ferch fwyaf llwyddiannus erioed mewn hwylio Olympaidd.

Roedd hi’n cystadlu yn y dosbarth 470 gyda’i phartner Eilidh McIntyre i ennill ei hail fedal aur, gyda’r cyntaf yn dod yng ngemau Rio 2016.

Roedd y ferch o Gaerdydd hefyd yn un o’r athletwyr a oedd yn llywio’r faner i Brydain eleni.

Fe wnaeth Mills a’i phartner McIntyre ennill dwy ras allan o 10 eleni – un yn llai na’r tîm Pwylaidd – ond roedd eu canlyniadau drwyddi draw yn well.

Roedden nhw 14 pwynt ar y blaen ar ddechrau’r ras olaf, a oedd yn golygu bod nhw ond angen gorffen yn seithfed i gipio’r aur.

Gorffennon nhw’r ras honno’n bumed, er bod protestiadau hwyr gan y pâr o Ffrainc a ddaeth yn ofer.

Dyma oedd medal Olympaidd gyntaf Mills a McIntyre, a oedd wedi enill aur ym mhencampwriaeth y byd yn 2019.

Mae hyn yn golygu mai dyma’r ail gyfanswm gorau erioed i hwylwyr Prydain yn y Gemau Olympaidd, gyda thair medal aur.