Disgrifiodd teulu’r Gymraes Hannah Mills eu teimladau o “lawenydd ac ecstasi llwyr” ar ôl iddi hawlio medal aur yn Tokyo.

Yr hwylwraig o Gaerdydd yw’r ferch fwyaf llwyddiannus erioed mewn hwylio Olympaidd yn dilyn y fuddugoliaeth.

Roedd hi’n cystadlu yn y dosbarth 470 gyda’i phartner Eilidh McIntyre i ennill ei hail fedal aur, gyda’r cyntaf yn dod yng ngemau Rio 2016.

Enillodd hi fedal arian yng Ngêmau Olympaidd Llundain yn 2012 hefyd.

Fe wnaeth Mills a’i phartner McIntyre ennill dwy ras allan o 10 eleni – un yn llai na’r tîm Pwylaidd – ond roedd eu canlyniadau drwyddi draw yn well.

Roedden nhw 14 pwynt ar y blaen ar ddechrau’r ras olaf, a oedd yn golygu bod nhw ond angen gorffen yn seithfed i gipio’r aur.

‘Wrth ei bodd’

Gorffennon nhw’r ras honno’n bumed, er bod protestiadau hwyr gan y pâr o Ffrainc a ddaeth yn ofer.

Fore Mercher (4 Awst), fe wnaeth ei theulu a’u ffrindiau ymgynnull yng Nghlwb Hwylio Bae Caerdydd i wylio’r ras.

Wrth siarad ar ôl y fuddugoliaeth, dywedodd Fiona Mills, mam Hannah Mills, ei bod wedi profi “cymysgedd o emosiynau”.

“Roeddwn i’n teimlo llawenydd ac ecstasi llwyr wrth i’r merched ennill y fedal aur,” meddai.

“Dydw i ddim yn hollol siŵr sut y gall hi fod yn perthyn i ni ond wrth gwrs mae hi.

“Mae hi wedi gweithio mor galed, fel y gwnaeth y ddwy ferch.

“Mae hi wastad wedi bod eisiau hwylio, mae hi wastad wedi bod wrth ei bodd – dydw i erioed wedi gorfod ei gorfodi i fynd i hyfforddi neu fynd i gystadleuaeth, mae hi wrth ei bodd.”

‘Anhygoel’

Canmolodd ei brawd Richard Mills, sy’n reolwr ar Glwb Hwylio Bae Caerdydd, ei chwaer gan ddweud ei bod wedi hwylio’n gyson drwy gydol yr wythnos.

“Mae’n anhygoel i Hannah.

“Gallai dwy fedal aur fod wedi bod yn dair pe bai pethau wedi mynd yn wahanol yn Llundain, ond mae’n wallgof ei bod wedi llwyddo i gyflawni hynny eto heddiw,” meddai.

“Nid dim ond i’r clwb, Caerdydd gyfan, Cymru gyfan, yn ogystal â Phrydain Fawr.

“Mae’n wych gweld ei bod hi wedi ennill y fedal aur.

“Mae’n wych meddwl ei bod hi allan yma yn hyfforddi pan oedd hi’n iau.”