Mae capten Caerdydd ôyn dweud mai dyrchafiad awtomatig yw’r targed ar gyfer y tymor newydd yn y Bencampwriaeth.

Gorffennodd yr Adar Gleision yn wythfed yn yr ail haen yn 2020-21 er iddynt wella’n sylweddol ar ôl i Mick McCarthy gymryd yr awenau fel rheolwr ym mis Ionawr.

Mae Sean Morrison, 30, yn credu bod y ddau uchaf yn bosib y tymor hwn.

Daw hyn cyn gem agoriad y tymor yn erbyn Barnsley dydd Sadwrn (7 Awst).

“Dyw’r un tîm yn dechrau’r tymor gan obeithio gorffen yng nghanol y tabl,” meddai.

“Rydym yn gwybod beth y gallwn ei wneud, dw i’n credu ein bod wedi dangos hynny y llynedd, yn enwedig tua diwedd y tymor.

“Mae angen i ni ddechrau’r tymor yn dda eleni.

“Os gallwn barhau o ddiwedd y llynedd, bod yn anodd i’n curo, a sgorio mwy o bob safle – nid dim ond yr ymosodwyr- yna bydd gennym gyfle.”

Kieffer Moore

Dywed Morrison fod gan Gaerdydd “un o’r ymosodwyr gorau yn y gynghrair os nad y gorau” yn Kieffer Moore, sydd ag 20 gôl mewn 42 ymddangosiad clwb ers ymuno o Wigan 12 mis yn ôl.

“Cafodd Ewros gwych ac mae’n llawn hyder. Mae’n mynd i fod yn chwaraewr enfawr i ni eleni.

“Mae gennym garfan weddol ifanc, llawer o chwaraewyr yn dod drwodd, ond os gallwn ddod o hyd i’r cydbwysedd hwnnw gyda’r pennau profiadol yn y garfan, rwy’n credu y bydd gennym gyfle da iawn.”