Mae Aelod Ceidwadol o’r Senedd wedi cyhuddo’r Prif Weinidog o “ddistewi beirniadaeth” o’i rheolau covid.

Dros gyfnod y ‘clo dros dro’ fydd dim modd prynu nwyddau nad ydynt yn hanfodol mewn siopau yng Nghymru, ac mae’r hyn sy’n cael ei ystyried yn ‘hanfodol’ wedi dod yn dipyn o bwnc llosg.

Ar brynhawn dydd Llun, f wnaeth Andrew RT Davies, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yn y Senedd, alw ar archfarchnadoedd i “sefyll cornel [eu] cwsmeriaid”.

Ac yn ymateb i hynny, mae bellach wedi dod i’r amlwg bod Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi sgwennu at Paul Davies, arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd.

Mae’n cyhuddo Andrew RT Davies o “annog pobol a chwmnïau i dorri’r gyfraith”. Bellach mae’r AoS wedi ymateb yn chwyrn i’r cyhuddiad ar Twitter.

“Yn ystod cyfnod pan mae … miloedd o fywoliaethau yn mynd i’r wal,” meddai, “mae Mark Drakeford yn ceisio distewi beirniadaeth o’i waharddiad siopa boncyrs.

“Anghredadwy. Mae Cymru’n haeddu gwell na hyn.”

Llythyr y Prif Weinidog

Cafodd llythyr Mark Drakeford ei anfon ddydd Mawrth (27 Hydref) ac mae’n galw am “gydweithio”, ac ar i’r Ceidwadwyr i “gefnogi’r gyfraith yn glir”.

“Mae eich grŵp wedi gwneud yn glir nad ydych chi’n cefnogi’r clo dros dro – cam a fydd yn dod â’r coronafeirws dan reolaeth ac yn achub bywydau.

“Ond bellach mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig – aelod etholedig o’r Senedd, a deddfwr – yn annog pobol a chwmnïau i dorri’r gyfraith.”

Mae’n nodi bod y sefyllfa yng Nghymru yn “ddifrifol” a bod angen “i bawb cydweithio” er mwyn sicrhau bo y clo dros dro yn “llwyddiant”.

“Edrychaf ymlaen at glywed eich ymateb a’r cadarnhad y bydd grŵp cyfan y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, o hyn ymlaen, yn cefnogi’r gyfraith yn glir.”

Neges wreiddiol yr AoS

Yn ei neges Twitter wreiddiol mae Andrew RT Davies yn cyfleu neges i gasgliad o archfarchnadoedd.

“[Dyma neges] i bobol Asda, Tesco, Sainsbury’s, Aldi, a Lidl; cyn eich cyfarfod y prynhawn ‘ma â Llywodraeth Lafur Cymru,” meddai.

“Gan fod diffyg synnwyr cyffredin ymysg [y rheiny sydd ar] dop y Llywodraeth, [dw i’n eich annog] i sefyll cornel eich cwsmeriaid. Mae Cymru yn eich cefnogi.”

Rheolau’n peri dryswch

Mae’r feirniadaeth o’r rheolau siopa wedi canolbwyntio ar ddillad yn bennaf, ac ar ddechrau’r clo dros dro wnaeth sawl unigolyn gyfleu eu gwrthwynebiad mewn ffyrdd go lliwgar.

Erbyn dechrau’r wythnos hon roedd yna bryderon bod cynnyrch mislif yn ddianghenraid, a bu’n rhaid i’r Llywodraeth gadarnhau nad dyna yw’r sefyllfa.

Fore heddiw daeth i’r amlwg bod Llywodraeth Cymru wedi cyfaddawdu rhywfaint. Bellach mae dillad i fabanod yn cael eu hystyried yn hanfodol.

Mwy am y stori hon