Mae cynnydd o 30% wedi bod mewn troseddau cyffuriau yn ystod y clo, a hynny er bod y mwyafrif o droseddau eraill wedi gostwng.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol cododd troseddau cyffuriau yng Nghymru a Lloegr o 44,064 rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2019 i 57,132 yn ystod yr un cyfnod eleni.
Fodd bynnag mae cyfanswm nifer y troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr wedi gostwng 4% eleni.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Ystadegau Gwladol mai’r cyfyngiadau a gafodd eu rhoi mewn lle i fynd i’r afael a’r coronafeirws sydd wedi arwain at y gostyngiad.
“Gwelwyd y gostyngiadau mwyaf sylweddol mewn troseddau dwyn a lladrata yn ystod y chwarter rhwng mis Ebrill a mis Mehefin.
“Er hyn mae’n edrych yn debyg bod lefelau troseddu ym mis Mehefin yn symud yn ôl tuag at lefelau cyn y clo.”
Ychwanegodd fod cynnydd hefyd wedi bod mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol o ganlyniad i achosion o dorri cyfyngiadau’r coronafeirws.
Dyma nifer y dirwyon coronafeirws sydd wedi’u rhoi gan heddluoedd yng Nghymru:
Heddlu Trafnidiaeth Prydain 24
Heddlu Dyfed-Powys 1,735
Heddlu Gwent 138
Heddlu’r Gogledd 533
Heddlu’r De 342