Mae Llywodraeth Cymru’n treulio’r wythnos yn gweithio ar fesurau cenedlaethol newydd a fydd yn dod i rym pan ddaw’r cyfnod clo dros dro i ben ar 9 Tachwedd.

Eglurodd Jeremy Miles, Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, yn ystod cynhadledd i’r wasg y prynhawn ’ma y bydd y Llywodraeth yn trafod y syniadau gyda sefydliadau gwahanol.

“Yr wythnos yma rydym yn gweithio ar fesurau cenedlaethol newydd a fydd yn dod i rym pan ddaw’r cyfnod clo i ben ar Dachwedd 9.

“Byddwn yn trafod y syniadau hyn gydag awdurdodau lleol, gyda’r heddlu a’r sefydliadau eraill i sicrhau eu bod yn iawn i Gymru.”

Ychwanegodd y bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cyhoeddi “yn y dyddiau nesaf” a fydd cyfyngiadau ar deithio neu ymweld â theuluoedd ar ôl i’r clo dros dro ddod i ben.

‘Pobol a busnesau angen gwybod’

Yn ôl Paul Davies arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig dylai Llywodraeth Cymru eisoes fod wedi trafod y mesurau fydd dod i rym ar ôl y cyfnod clo.

“Mae’n hanfodol ein bod ni’n clywed gan Lywodraeth Cymru nawr ynglŷn â’u strategaeth”, meddai wrth BBC Cymru.

“I ddweud y gwir dylai’r Llywodraeth fod wedi bod yn trafod hyn cyn nawr, ond does ganddyn nhw ddim cynllun.

“Mae pobol eisiau gwybod beth yw’r camau nesaf ac mae angen i fusnesau wybod am y cynlluniau er mwyn cynllunio ymlaen.”

“Gwir angen i ni wybod beth yw’r cynllun ar ôl Tachwedd 9fed”

Wrth ymateb i gynhadledd Llywodraeth Cymru heddiw (dydd Mercher 28 Hydref), ychwanegodd Rhun ap Iorwerth AoS, Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, ei lais at y galwadau am gyflymu’r paratoadau.

“Mae gwir angen i ni wybod beth yw’r cynllun ar ôl Tachwedd 9fed,” meddai Mr ap Iorwerth.

“Rydym wedi cael rhywfaint o fanylion heddiw, ac rwy’n croesawu hynny. Roeddwn wedi galw, er enghraifft, am sicrwydd y gallai campfeydd ailagor fel y gallai pobl gadw’n heini o gorff a meddwl.

“Ond mae angen mwy o fanylion arnom am yr hyn y dylai busnesau gynllunio ar ei gyfer, ac yn hollbwysig yr hyn y bydd y Llywodraeth yn ei wneud yn wahanol o ran rheoli a churo’r feirws, yn bennaf drwy gryfhau’r system brofi.”

Cydweithio i baratoi at y Nadolig

Pan ofynnwyd i Jeremy Miles yn ystod y gynhadledd beth sy’n debygol o ddigwydd dros y Nadolig, dywedodd fod Cymru am geisio cydweithio gyda gwledydd eraill y Deyrnas Unedig er mwyn paratoi ar gyfer cyfnod yr Ŵyl.

Ond ychwanegodd bod angen i Lywodraeth Cymru weld beth fydd y sefyllfa yn ystod yr wythnosau nesaf cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford eisoes wedi dweud efallai bydd rhaid i bobol ystyried sut mae yn treulio’u hamser cyn y Nadolig er mwyn paratoi.

Yn ystod y gynhadledd dywedodd y Cwnsler Cyffredinol cyffredinol fod 37 yn rhagor o farwolaethau coronafeirws wedi’u cofnodi yng Nghymru heddiw.