Dydd calan yw hi heddiw, Rwy’n dyfod ar eich traws, I ofyn am y geiniog, Neu grwst, a bara a chaws…
Wel mae Dydd Calan wedi bod, a does neb yn debygol o fod yn barod i gynnig ceiniog i ryw rigymwr diarth ar stepen drws yn yr hinsawdd economaidd yma. Ond dyma gynnig ambell broffwydoliaeth ar gyfer 2012…
Cyn gwneud hynny beth am edrych yn ôl ar fy mhroffwydoliaethau ar gyfer 2011?
“Diwedd ar yr eira – Bydd yr eira mawr yn dychwelyd dros y ddeufis nesaf, gan achosi problemau mawr i gynghorau sydd eisoes yn brin o raean. Serch hynny, dyma’r olaf o’r eira fyddwn ni yn ei weld eleni. Bydd y gwleidyddion a’r awdurdodau lleol yn paratoi am aeaf mawr eto cyn diwedd y flwyddyn, ac yn prynu dwywaith cymaint o raean… ond ni fydd pluen eira yn disgyn.”
Cywir. Er i’r cynghorau bentyrru mae o raean nag erioed o’r blaen, mae’r eira wedi cadw draw eleni. Roedd diwedd gaeaf 2010/2011 a dechrau gaeaf 2011/2012 yn llawer cynhesach na’r cyfartaledd.
“Cymru yn dweud ‘Ie’ – Er gwaethaf rhybuddion Comisiwn Cymru Gyfan nad yw buddugoliaeth yn sicr, a phryderon Peter Hain, fe fydd Cymru yn pleidleisio o blaid mwy o bwerau datganoli ar y 3ydd o Fawrth, a hynny o fwyafrif iach.”
Cywir. Dim ond un sir yng Nghymru bleidleisiodd yn erbyn rhagor o bwerau.
“Prydain yn dweud ‘na’ – i’r bleidlais amgen – Bydd yr ymgyrch o blaid newid i’r system gyntaf heibio’r postyn i’r system bleidlais amgen yn methu ag argyhoeddi pobol Prydain bod angen y newid. Bydd y bleidlais ‘Ie’ yn cario’r dydd yng Nghymru a’r Alban, sydd wedi arfer gyda sustemau pleidleisio cyfrannol, ond yn methu o drwch blewyn yn Lloegr. Bydd hyn yn arwain at hollt mawr o fewn y Democratiaid Rhyddfrydol.”
Cywir, ond roedd hi’n chwalfa yn hytrach nag o drwch blewyn. Wnaeth y bleidlais amgen ddim hyd yn oed gael sl bendith pobol Cymru a’r Alban.
“Etholiad da i Lafur – Bydd y Blaid Lafur yn ail-ennill rywfaint o’i chefnogaeth ar draws Cymru, ac yn cipio dwy neu dair sedd ychwanegol. Bydd y Ceidwadwyr yn ennill rhywfaint o dir oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol. Bydd Plaid Cymru yn gwrthod ceisio atgyfodi’r glymblaid enfys, yn sgil pryderon ynglŷn â phoblogrwydd Llywodraeth San Steffan. Fe fyddwn nhw’n aros mewn clymblaid gyda’r Blaid Lafur, ac yn cynhyrchu dogfen i olynu Cymru’n Un. Bydd Ron Davies yn awgrymu’r enw ‘Cymru Ymlaen’.”
Cywir am yr etholiad, anghywir am glymblaid arall yn y Cynulliad. Ond fe alla’i ddigwydd ryw ben o hyd…
“Rhyfel yn Korea – Bydd De a Gogledd Korea yn mynd i ryfel, ar ôl i China awgrymu na fyddai’n ymyrryd. Bydd yr Unol Daleithiau yn penderfynu anfon milwyr ond Prydain a gwledydd eraill yn gwrthod. Yn wahanol i ryfeloedd Irac af Afghanistan fe fydd hon yn rhyfel byr, ond hynod o dreisgar. Bydd cannoedd o filoedd wedi marw ar ddiwedd tri mis ffyrnig o frwydro, y rhan fwyaf yn ddinasyddion wedi eu gorfodi i’r frwydr gan fyddin Gogledd Korea. Serch hynny, De Korea fydd yn ennill y dydd ac erbyn diwedd y flwyddyn bydd y gwledydd yn un unwaith eto.”
Anghywir. Doedd yna ddim rhyfel rhwng y ddwy Gorea. Ond roedd ddigwyddiad arall mawr yn haes y ddwy wlad, sef marwolaeth yr arweinydd meudwyaidd Kim Jong-Il.
“Ed Miliband yn priodi – Bydd Ed Miliband yn gweld y lles y bydd priodas William a Kate yn ei wneud i ddelwedd y Teulu Brenhinol ac yn penderfynu gofyn i’w bartner, Justine Thornton, ei briodi. Ond ni fydd yn gofyn i’w frawd, David Miliband, fod yn was priodas, ac fe fydd y wasg yn gwneud mor a mynydd o hynny.”
Cywir, ond mae’r drwg deimlad rhyngddo ef a’i frawd yn parhau i ffrwtian.
“Cyfnod anodd i’r Glymblaid – Bydd y Glymblaid yn San Steffan yn mynd trwy ei chyfnod anoddaf yn 2011. Bydd y toriadau’n brathu o ddifri ond ni fydd yr economi yn tyfu’n ddigon cyflym eto i argyhoeddi pobol bod y Llywodraeth wedi gwneud y penderfyniad cywir drwy dorri’n ôl mor fuan. Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol mewn trafferth, yn amhoblogaidd yn y wlad ac wedi colli’r refferendwm ar y bleidlais amgen. Bydd ambell i aelod blaenllaw o’r blaid, Simon Hughes efallai, yn herio Nick Clegg yn agored. Serch hynny, daw haul ar fryn erbyn diwedd y flwyddyn wrth i’r hinsawdd economaidd ddechrau gwella a bydd Clegg yn cael clod am ddal y cyfan at ei gilydd.”
Cywir, ond ni ddaeth haul ar fryn i’r economi erbyn diwedd y flwyddyn. A dweud y gwir mae pethau’n edrych yn dduach os rywbeth.
“Palin ar y blaen – Fe fydd Sarah Palin a Mitt Romney yn datgan eu bod nhw’n barod i herio Barack Obama yn yr etholiad yn 2012. Serch hynny bydd yr Arlywydd yn dechrau gwneud mwy o argraff ar bobol yr Unol Daleithiau wrth i’r trafferthion economaidd leddfu chwaneg. Erbyn diwedd y flwyddyn bydd Sarah Palin yn ffefryn i sicrhau enwebiad y Gweriniaethwyr ond polau piniwn cenedlaethol yn awgrymu na fydd hi’n maeddu Obama yn 2012.”
Anghywir. Does dim son am Palin erbyn hyn, yn bennaf o ganlyniad i’w hymateb i saethu Gabrielle Giffords ddechrau’r flwyddyn. Dyw hi ddim hyd yn oed yn y ras ar hyn o bryd – Mitt Romney yw’r ceffyl blaen.
Proffwydoliaethau 2012
Menyw yn arweinydd Plaid Cymru
Bydd arweinydd newydd Plaid Cymru wedi ei ddewis erbyn Cynhadledd Wanwyn y blaid ym mis Mawrth 2012. Pe bawn i’n gorfod betio fy nhŷ fe fyddwn i’n dweud mai Elin Jones fydd yn fuddugol, a Leanne Wood yn yr ail safle. Ond fe allai fod fel arall…
Barack Obama yn ennill etholiad Arlywyddol 2012
Ar ôl ennill Iowa a New Hampshire dros y dyddiau nesaf fe fydd Mitt Romney yn ennill enwebiad y Blaid Weriniaethol yn weddol rwydd. Ond unwaith y bydd yn cael ei enwebu fe fydd yr ymosodiadau yn dechrau arno o ddifrif. Fe fydd y ffaith ei fod yn ddyn busnes cyfoethog yn mynd yn ei erbyn, ac adferiad araf economi’r Unol Daleithiau yn ddigon i achub Obama. Mae Barack Obama hefyd ar ei orau pan mae’n cael rhwydd hynt i areithio o flaen miloedd o bobol, felly fe fydd yn ei elfen.
Dirwasgiad economaidd
Mae arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd a pharth r ewro bellach wedi dangos nad oes ganddyn nhw’r gallu i atal yr argyfwng economaidd, ond hefyd nad ydyn nhw’n barod i ganiatáu i’r ewro chwalu. Bydd y Blaid Sosialaidd yn cipio grym yn Ffrainc gan ddrysu’r broses ymhellach. Canlyniad y petruster fydd dirwasgiad bas ond hir yn Ewrop fydd hefyd yn effeithio ar Ynysoedd Prydain. Fe fydd toriadau llywodraeth San Steffan hefyd yn brathu o ddifri yng Nghymru, lle mae swyddi yn y sector breifat yn brin. Bydd Ewrop yn gorffen 2012 mewn gwaeth siâp yn economaidd, ond yn weddol obeithio fod y gwaethaf drosodd a bod cyfle i ail-adeiladu yn 2013 a 2014.
Gweinyddiaeth Libya yn chwalu
Bydd y protestwyr yn drech na’r Arlywydd Bashar al-Assad, ac fe fydd ei weinyddiaeth yn chwalu yn y pen draw. Ond fe fydd yn gweld i ba gyfeiriad mae’r gwynt yn chwythu ymhell cyn Muammar Gaddafi ac yn ffoi o i fyw yn Iran.
Terfysg yn Rwsia a China
Fe fydd trafferthion economaidd yn China ac anniddigrwydd gwleidyddol yn Rwsia yn arwain at brotestiadau a therfysg mawr yn y gwledydd rheini. Ni fydd y protestiadau yn ddigon i newid y drefn ond fe fydd y llywodraethau yn llacio rhywfaint ar eu rheolaeth lem dros y bobol.
Fe fyddwn ni’n mwynhau’r Gemau Olympaidd
Er gwaetha’r drwg deimlad am yr holl arian cyhoeddus yn cael ei wario yn Llundain, fe fydd pawb yn mynd i ysbryd y Gemau Olympaidd yn y pen draw. Bydd lleoliad yr ŵyl yn cael ei anghofio ar ôl y seremoni agoriadol a phawb yn mwynhau’r chwaraeon. Ond bydd Team GB yn colli yn y rownd gyntaf a’r FA yn anghofio am y syniad am 100 mlynedd arall.
Byd Chwaraeon
Bydd Wrecsam yn ennill dyrchafiad, Abertawe yn aros yn Uwch-gynghrair Lloegr ond Caerdydd yn methu ag ymuno â nhw ar ôl colli 2-1 yn Wembley ar ddiwrnod olaf y tymor. Bydd Cymru yn y pedwerydd safle yn y Chwe Gwlad ar ôl ymgyrch siomedig a cholli yn erbyn Lloegr, Ffrainc ac Iwerddon.
Ni fydd y byd yn dod i ben
Mae’n debyg fod gwareiddiad y Maya wedi darogan y bydd y byd yn dod i ben yn 2012. Ni fydd hyn yn digwydd. Dw i’n weddol sicr o hyn… efallai… gobeithio…