Mitt Romney
Mae Mitt Romney yn hyderus y bydd yn sicrhau buddugoliaeth yn y cawcws taleithiol cyntaf i ddewis ymgeisydd y Gweriniaethwyr yn Etholiad Arlywyddol yr Unol Daleithiau.
Bydd talaith Iowa yn pleidleisio yfory i enwebu ymgeisydd i herio Barack Obama ym mis Tachwedd eleni.
Fe fydd y broses yn parhau am chwe mis ac Iowa yw’r cyntaf i bleidleisio. Dim ond dau neu dri ymgeisydd sydd fel arfer yn gadael y dalaith â digon o fomentwm i barhau yn y ras.
Mae cyn-Lywodreathwr Massachusetts, Mitt Romney, yn geffyl blaen ar yn o bryd ond yn wynebu her gan un o Gynrychiolwyr Texas, Ron Paul, a Seneddwr Pennsylvania, Rick Santorum.
Yn ôl y polau piniwn diweddaraf mae dros hanner y rheini sy’n bwriadu pleidleisio yn credu mai Mitt Romney sydd fwyaf tebygol o drechu Barack Obama mewn etholiad arlywyddol.
Mae Ron Paul yn denu cefnogaeth gan bleidleiswyr sy’n credu y dylid cyfyngu ar rym y llywodraeth ffederal, a Rick Santorum yn boblogaidd ymysg ceidwadwyr Cristnogol.
Yn y cyfamser mae Mitt Romney wedi pwysleisio y gallai ddenu ystod eangach o bleidleiswyr, ac fod ganddo’r profiad i ddatrys problemau economaidd y wlad.
Mae’r polau piniwn yn awgrymu y gallai’r Arlywydd Barack Obama golli’r etholiad o ganlyniad i ddiweithdra uchel a diffyg twf yn yr economi.
Yn ôl sylwebwyr gwleidyddol canlyniad yr etholiad yn debygol o ddibynnu ar gryfder adferiad yr economi dros y misoedd nesaf.