David Cameron
Mae’r Prif Weinidog, David Cameron, wedi addo mai 2012 fydd y flwyddyn y bydd ei Lywodraeth yn adnewyddu’r Deyrnas Unedig.
Dywedodd y bydd y sylw byd-eang i’r Gemau Olympaidd a Jiwbilî Diemwnt y Frenhines yn gyfle i Brydain fod ar ei gorau.
Rhybuddiodd y bydd 2012 yn flwyddyn “anodd i’r economi”, ond y bydd llywodraeth y glymblaid yn San Steffan yn “gwneud mwy” er mwyn helpu pobol oedd yn ei chael hi’n anodd.
“Dyma’r flwyddyn y bydd Prydain yn gweld y byd a’r byd yn gweld Prydain,” meddai David Cameron.
“Dyma’r flwyddyn y byddwn ni’n mynd amdani – y flwyddyn y bydd y llywodraeth yr ydw i’n ei arwain yn gwneud popeth o fewn ei allu i gryfhau’r wlad hon.
“Dros y misoedd nesaf fe fydd sylw’r byd ar y Gemau Olympaidd a’r Jiwbilî Diemwnt. Fe fydd camerâu ar draws y byd yn cofnodi’r digwyddiadau godidog yma.
“Mae’n ysgogiad gwych i ni edrych allan, edrych ymlaen ac edrych ein gorau: i deimlo balchder yn ein hunain ac – hyd yn oed yn yr amseroedd caled yma – beth allen ni ei gyflawni.”
Ychwanegodd ei fod “yn gwybod y bydd nifer yn gwylio hyn sy’n pryderu am beth arall a ddaw eleni”.
“Mae yna ofnau am swyddi a thalu’r biliau. Mae cael gwaith yn anodd, yn enwedig i bobol ifanc. Ac mae prisiau uwch wedi taro cartrefi.
“Rydw i’n deall hynny. Rydyn ni’n gweithredu. Rydw i’n gwybod pa mor anodd fydd hi i fynd i’r afael â hyn. Ond rydw i’n gwybod y byddwn ni.”