Rhybudd llifogydd
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y bydd storm ffyrnig yn taro Cymru yfory, gan ddod a gwyntoedd cryfion a llifogydd.
Ni fydd y rhagolwg yn codi calon unrhyw un sy’n dychwelyd i’r gwaith yfory, gyda rhybudd y gallai gwyntoedd cryfion aflonyddu ar allu pobol i deithio i’r gwaith yn ystod y bore.
Mae’n nhw’n rhagwelld tywydd difrifol ar draws Prydain, gan gynnwys gwyntoedd o hyd at 80 milltir yr awr a llifogydd yng Nghymru a gogledd orllewin Lloegr.
Fe fydd yna hefyd gwymp sylweddol mewn tymheredd, gan ddod a chyfnod cynhesach na’r arfer dros y Nadolig a’r flwyddyn newydd i ben.
Bydd gogledd orllewin yr Alban yn cael ei daro gan wyntoedd cryfion ac eira dros nos, cyn i’r tywydd gaeafol lyncu gweddill Prydain dros y 24 awr ganlynol.
“Mae yna wasgedd isel yn agosáu o’r gorllewin, gan ddod a gwyntoedd o hyd at 80 milltir yr awr a glaw trwm,” meddai Billy Payne o gwmni proffwydo tywydd MeteoGroup.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y bydd “cyfnod o dywydd gwlyb a gwyntog iawn yn taro’r Deyrnas Unedig yn ystod dydd Mawrth”.
“Fe ddylai’r cyhoedd fod yn ymwybodol y gallai gwyntoedd cryfion ar fore dydd Mawrth aflonyddu ar eu gallu i deithio.
“Fe fydd cyfnod o law trwm hefyd yn effeithio ar sawl ardal, ac mae yna berygl y bydd llifogydd mewn rhannau o Gymru a gogledd-orllewin Lloegr.”