Mae dyn 26 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad â char yng nghanol tref Merthyr Tudful.

Digwyddodd y gwrthdrawiad toc wedi 10pm ddydd Sadwrn 31 Rhagfyr, 2011 ar gyffordd Church Street.

Gwrthdarodd y cerddwr â thacsi Vauxhall Astra estate du. Fe fu farw o’i anafiadau yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Mae Swyddog Cyswllt Teuluolyn cefnogi perthnasau’r dyn.

Dylai unrhyw un a welodd beth ddigwyddodd ffonio 101 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.