Barack Obama
Mae yr Arlywydd Obama wedi arwyddo mesur amddiffyn newydd sydd yn cyfreithloni cyfres o sancsiynnau llym yn erbyn Iran.
O hyn allan ni fydd unrhyw gwmni o dramor sy’n masnachu efo banc canolog Iran yn cael defnyddio system ariannol yr UDA.
Mae’r Arlywydd eisoes wedi dweud ei fod yn poeni y gall hyn effeithio ar y diwydiant olew mewn cyfnod o gynni economaidd a gelyniaethau rhai o gyngrheiriaid y wlad.
Fe wnaeth llywodraeth Iran ymateb yn chwyrn i adroddiadau yr wythnos diwethaf bod sancsiynnau allai effeithio ar ddiwydiannau olew a bancio’r wlad ar y gweill.
Pryd hynny fe wnaeth y llwyodraeth yn Tehran fygwth cau culfor Hormuz sy’n cysylltu y Gwlff a chefnfor India. Mae 20% o olew y byd yn teithio ar hyd y culfor yma.
Yn y cyfamser mae asiantaeth newyddion swyddogol Iran wedi cadarnhau eu bod wedi llwyddo i saethu taflegryn cyrhaeddiad canolig o’r tir i’r awyr yn ystod cyfres o ymarferiadau militaraidd yn y Gwlff.
Mae hyn yn sicr o bryderu arweinwyr rhai o wledydd y gorllewin, gan gynnwys yr Arlywyddd Obama. sy’n poeni bod Tehran yn ceisio datblygu arfau niwcliar.
Mae Iran ar y llaw arall yn mynnu ei bod yn datblygu ynni niwcliar am resymau yn ymwenud ag ynni a meddygaeth ac nid er mwyn creu arfau.