Bu dwy ddamain ddifrifol yn ngogledd Cymru yn ystod oriau cynnar dydd Calan.
Lladdwyd dwy wraig ifanc o Wynedd yn y fan a’r lle wedi damwain ym mhentref Llanrug ger Caernarfon ben bore.
Roedd y ddwy mewn car Vauxhall Corsa oedd yn teithio o Lanberis i Gaernarfon tua 6 o’r gloch y bore pan aeth yn erbyn wal ger tafarn Glyn Twrog yn y pentref.
Mae’r crwner wedi cael ei hysbysu am yr hyn sydd wedi digwydd.
Mewn damwain arall yn nghyffiniau Llanfairfechan, cafodd llanc ifanc ei daro gan BMW arian tua 2.00yb tra roedd yn cerdded efo ffrindiau ar ffordd yr A55 yn Nhal-y-bont.
Mae bellach yn Ysbyty Gwynedd yn diodde o anafiadau difrifol i’w goesau.
Chafodd neb arall ei anafu ac fe wnaeth y car stopio ar ôl y ddamwain.
Bu un lôn o’r A55 ar gau am rai oriau tra roedd y gwasanaethau brys wrth eu gwaith.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn i unrhyw un sydd gan wybodaeth unrhyw un o’r digwyddiadau yma i ffonio 0300 3300101.