Llandudno
Mae dyn yn ei chwedegau wedi marw ar ôl i dân gynnau mewn fflat yn Llandudno yn gynnar y bore yma.
Roedd yna nifer o fflatiau yn y tŷ yn stryd Mostyn ac fe ddihangodd 10 o bobl o’r adeilad yn ddi-anaf.
Cafodd diffoddwyr a’r heddlu eu galw i’r tŷ tua 7.00yb gan ganfod y dyn wedi marw yn y fan ar lle.
Mae ymchwiliad i beth achosodd y tân eisoes ar y gweill ond dyw’r swyddogion ddim yn credu ei fod wedi cael ei gynnau’n fwriadol.