Daeth criw bad achub Llandudno o hyd i gorff dyn  ar greigiau traeth gorllewinol y dref y bore yma.

Roedd y gwasanaethau achub a hofrennydd Heddlu Gogledd Cymru wedi cychwyn chwilio am ddyn 64 oed oedd ar goll ar y môr ger Conwy ers 10.00 o’r gloch neithiwr ar ôl i wylwyr y glannau dderbyn galwad ganddo ar ei ffôn symudol yn dweud ei fod ar goll.

Dywedodd y dyn ei fod wedi angori ond mewn trafferthion oddi ar drwyn Penmaenbach.

Rhoddwyd y gorau i chwilio amdano am 4.00 o’r gloch y bore gan ail gychwyn ychydig oriau yn ddiweddarach a daethpwyd o hyd i’r corff am 9.15yb.

Roedd y gwasanaethau achub wedi dod o hyd i’r cwch, sydd wedi ei chofrestru yn Neganwy, rhyw filltir i’r gogledd o Gonwy.