Angladd Kim Jong Il yn Pyongyang heddiw (AP Photo)
Mae degau o filoedd o drigolion Gogledd Korea yn galaru ar strydoedd y brifddinas Pyongyang heddiw yn angladd gwladol yr arweinydd Kim Jong Il.

Yn arwain yr osgordd angladdol mae ei fab, Kim Jong Un, gan gerdded gydag un llaw ar yr hers, a’r llaw arall wedi ei chodi mewn saliwt.

Mae hyn yn arwydd clir pellach mai ef yw’r arweinydd newydd, ar ôl i gyfryngau’r wladwriaeth gyfeirio’n gyson ato dros yr wythnos ddiwethaf fel ‘yr olynydd mawr’ a’r ‘goruchaf arweinydd’. Ef fydd trydedd genhedlaeth y teulu sydd wedi llywodraethu’r wlad yn ddilyffethair ers 60 mlynedd.

Dros y 10 diwrnod diwethaf, mae cannoedd o filoedd o drigolion y wlad wedi bod heibio i arch Kim Jong Il ym mhrif sgwâr y ddinas.

Mae’r galarwyr wedi bod yn sefyll yn yr eira heb ddim byd am eu pennau, gyda llawer yn sgrechian a chwifio’u breichiau wrth i filwyr ymdrechu i’w cadw ar y pafin.

 “Sut y gall yr awyr beidio ag wylo?” oedd cri un milwr yn yr eira ar deledu’r wlad. “Mae’r bobl … i gyd yn wylo dagrau o waed.”