Caerdydd yw’r ddinas fwyaf cymdeithasol ym Mhrydain, a’r lle gorau am noson allan, yn ôl canlyniadau arolwg newydd.

Fe fu CitySocialising, rhwydwaith cymdeithasol ar y we ar gyfer cyfarfod â phobl newydd, yn edrych ar arferion cymdeithasol ei 160,000 o aelodau ym Mhrydain yn ystod 2011.

Roedd Caerdydd yn glir ar y blaen fel dinas fwyaf cymdeithasol Prydain, gyda Leeds a Newcastle yn dilyn. Roedd Llundain yn y chweched safle, a Glasgow ar waelod y tabl.

Roedd trigolion Caerdydd yn mynychu 28% yn fwy o ddigwyddiadau na’r cyfartaledd, tra bod y ffigur cyfatebol am Glasgow yn 58% yn is na’r cyfartaledd.

Meddai Sanchita Saha, prif weithredwr a sylfaenydd y rhwydwaith:

“Roedd trigolion Caerdydd ymhell ar y blaen i gyfartaledd Prydain o safbwynt y nifer o ddyddiau a nosweithiau allan yr oedden nhw’n ei gael yn 2011.

“Dyw canlyniadau’r arolwg ddim yn fy synnu i gymaint â hynny – mae CitySocialising ei hun yn trefnu tua 40 o ddigwyddiadau’r mis i’n haelodau i gwrdd â’r galw yno.

“Mae’r rhain yn amrywio o ddiodydd ar ôl gwaith i giniawau dydd Sul a nosweithiau Sadwrn allan.”

Meddai Alun Sheppard, aelod o CitySocialising Caerdydd: “Fe fydd unrhyw un sydd wedi ymweld â Chaerdydd yn gwybod dinas mor ffantastig yw hi a pha mor gyfeillgar yw’r bobl.

“Mae cyffro i’w deimlo o ganol y ddinas i Fae Caerdydd. Dw i wedi gwneud criw da o ffrindiau yma, ac mae yma bob amser rywun newydd i’w cyfarfod a’u croesawu.”