Elin Jones AC
Mae’r dirwasgiad economaidd yn ei gwneud hi’n fwy hanfodol fyth i gynnal gwasanaethau iechyd lleol, yn ôl Plaid Cymru.
Dywed llefarydd y Blaid ar iechyd, Elin Jones AC, y byddai gorfod teithio ymhellach at wasanaethau meddygol yn gosod straen ariannol annerbyniol ar y bobl dlotaf mewn cymdeithas.
Rhybuddia y bydd oblygiadau difrifol i iechyd y cyhoedd os bydd gwasanaethau meddygol allan o gyrraedd pobl oherwydd costau uwch – ac mai pwrs y wlad fyddai’n dioddef yn y tymor hir.
Mae byrddau iechyd lleol wrthi ar hyn o bryd yn adolygu eu rhwydwaith o ddarpariaeth, yn unol â chyfarwyddyd gan weinidog iechyd Cymru.
‘Rheswm cryf arall’
“Mae’r amseroedd ariannol anodd gaiff cymaint o deuluoedd ar hyn o bryd yn rheswm cryf arall pam na ddylid israddio ein hysbytai lleol, gan symud gwasanaethau i ganolfannau rhanbarthol,” meddai Elin Jones.
“Gwyddom y gall pellter rwystro pobl rhag cyrraedd y gwasanaethau y mae arnynt eu hangen, oherwydd bod teithio yn mynd yn rhy ddrud. Gyda llai o arian yn cylchdroi, pa faich fydd hyn yn ei roi ar rai o’r rhai tlotaf yn ein cymdeithas?
“Os nad aiff pobl at y gwasanaethau meddygol y mae arnynt eu hangen, gwyddom y gall hyn arwain at fwy o broblemau iechyd yn nes ymlaen. Os digwydd hynny, bydd oblygiadau difrifol iawn i iechyd cyhoeddus ac i bwrs y wlad gan y bydd angen mwy o wasanaethau i ymdrin â’r canlyniadau.”