David Cameron
Mae David Cameron a Nick Clegg wedi mynnu y bydd clymblaid Llywodraeth San Steffan yn parhau, er gwaethaf etholiad a refferendwm trychinebus i’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Gwrthododd y mwyafrif llethol o bleidleiswyr gynnig y Democratiaid Rhyddfrydol i newid y system bleidleisio.
Dim ond 5.8 miliwn (31.6%) gefnogodd newid i’r system bleidlais amgen, neu ‘AV’, tra bod 12.5 miliwn (68.4%) wedi pleidleisio yn erbyn yn y refferendwm ddydd Iau.
Yn ogystal â hynny collodd y Democratiaid Rhyddfrydol un sedd yng Nghymru, 12 sedd yn yr Alban, a 700 o gynghorwyr yn Lloegr.
Cyfaddefodd y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, fod y canlyniadau yn “ergyd drom” i’r Democratiaid Rhyddfrydol ond y byddai’r blaid yn “bwrw ymlaen â’r gwaith”.
Mae dirpwy arweinydd y blaid, Simon Hughes, eisoes wedi mynnu na fydd Nick Clegg yn cael ei ddisodli a’i fod “yr un mor gryf yn wleidyddol ac yn bersonol a phan ymunodd â’r Llywodraeth”.
Mae David Cameron hefyd wedi mynnu y bydd llywodraeth y glymblaid yn parhau am gyfnod o bum mlynedd, wrth i rai Ceidwadwyr meinciau ôl alw am ddod a’r cytundeb i ben.
Ar ôl i ganlyniadau’r refferendwm ddod i’r amlwg, cyfaddefodd David Cameron fod y ddadl wedi bod yn un “anodd” i Lywodraeth San Steffan.
“Roedd y glymblaid wedi cytuno i ofyn y cwestiwn i bobol Prydain ac maen nhw wedi ateb,” meddai.
“Nawr mae pobol Prydain eisiau llywodraeth gref a phenderfynol fydd yn gweithredu er lles y wlad.
“Dyna beth ydyn ni wedi bod yn ei wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a dyna ydyn ni’n bwriadu ei wneud am weddill y Senedd yma.”