Mae Cymru wedi pleidleisio ‘Ie’ yn y refferendwm ar ragor o ddatganoli i’r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae pob un o’r 22 cyngor yng Nghymru bellach wedi cyhoeddi eu canlyniadau ac mae’r bleidlais ‘Ie’ dros 200,000 o bleidleisiau ar y blaen i’r bleidlais ‘Na’.

Pleidleisiodd 517,132 ‘Ie’ a 297,380 ‘Na’.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y byddai mwy o gyfrifoldeb ar wleidyddion y Bae o hyn ymlaen.

“Rydyn ni’n awr yn gallu gwneud pethau yn hytrach na siarad amdanyn nhw,” meddai.

“Heddiw fe gafodd hen wlad ei pharch.”

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, fod “calon y genedl yn dal i guro yn gadarn”.

Ychwanegodd arweinydd yr ymgyrch ‘Ie’,  Roger Lewis, fod Cymru “yn hapus ac yn hyderus”.

“I’r rheini dydyn ni heb eu cyrraedd, rydw i’n dweud ein bod ni’n mynd i fynd a Cymru ymlaen gyda’n gilydd.

“Does dim cywilydd mewn camgymeriadau. Y cywilydd fyddai peidio rhoi cynnig arni.

“Heddiw rydyn ni wedi dod o hyd i’n llais!”

Dim ond Sir Fynwy bleidleisiodd ‘Na’, a hynny o 320 pleidlais yn unig.

Roedd nifer y pleidleiswyr yn uwch na’r disgwyl hefyd, gyda 35% wedi pleidleisio ar draws Cymru.


Ychwanegodd is-gadeirydd yr ymgyrch ‘Ie’, Lee Waters, eu bod nhw wedi ennill pob etholaeth heblaw am un.

“Mae’n amlwg yn bleidlais gref o blaid ‘Ie’ yng Nghymru,” meddai.

“Dydyn ni ddim wedi ennill Sir Fynwy, ond roedd 17% yn fwy wedi pleidleisio ‘Ie’ nag yn 1997.

“Fe wnaeth yr ymgyrch ‘Na’ lot o sŵn, a chael lot o sylw, ond wnaethon nhw ddim ennill unrhyw bleidleisiau.”

Diolchodd Rachel Banner, arweinydd yr ymgyrch ‘Na’, i’r “bobol gyffredin” oedd wedi gweithio’n galed er mwyn ceisio sicrhau “y gorau i Gymru”.