Mae uwch swyddog yr heddlu wedi ymddangos o flaen llys wedi ei gyhuddo o droseddau rhyw yn ymwneud â phlant a meddu ar luniau anweddus o blant.
Cafodd yr Archwilydd Geraint Lloyd Evans, 47, o Heddlu De Cymru, ei gadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos o flaen Llys Ynadon Llanelli heddiw.
Cyhuddwyd ef o saith trosedd gwahanol ddoe ac fe fydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron Abertawe ar 11 Mawrth.
Mae’r cyhuddiadau yn cynnwys cynllwynio gydag eraill er mwyn annog gweithgaredd rhywiol anghyfreithlon â phlentyn dan 13 oed.
Mae hefyd wedi ei gyhuddo o greu lluniau anweddus o blant, meddu ar bedwar llun o blant yn cael eu cam-drin, a meddu ar bornograffi eithafol.
Fe fydd yn ymddangos o flaen llys eto’r wythnos nesaf, gyda tri aelod o’r cyhoedd sydd hefyd wedi eu cyhuddo o droseddau yn ymwneud â lluniau anweddus o blant.
Cafodd Geraint Lloyd Evans ei gyhuddo yn dilyn ymchwiliad gan Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu.
Arweiniodd ymchwiliad troseddol ar wahân gan Heddlu De Cymru at gyhuddo tri aelod o’r cyhoedd.
“Rydw i’n fodlon bod y mater wedi ei ymchwilio’n drwyadl,” meddai’r Comisiynydd yng Nghymru, Tom Davies.
“Fe fyddai’n amhriodol gwneud sylw pellach nawr fod y broses gyfreithiol wedi dechrau.”