Carwyn Jones
Mae disgwyl i’r Blaid Lafur yng Nghymru benderfynu llywodraethu ar eu pen eu hunain am y tro ar ôl ennill 30 sedd yn Etholiadau’r Cynulliad ddydd Iau.
Er i’r Blaid Lafur orffen un yn fyr o fwyafrif, mae ennill hanner y seddi yn ddigon i atal y pleidiau eraill rhag ffurfio ‘clymblaid enfys’ fyddai’n gallu llywodraethu yn eu lle.
Mae’r Blaid Lafur wedi awgrymu y bydd Carwyn Jones yn ffurfio llywodraeth newydd yr wythnos nesaf ac yn dechrau penodi gweinidogion, cyn ystyried clymbleidio yn ddiweddarach os o gwbl.
Bydd ACau’r Blaid Lafur yn cyfarfod ddydd Mawrth er mwyn trafod y camau nesaf.
Roedd disgwyl i Lafur ennill y 31 sedd angenrheidiol ar ôl cipio Blaenau Gwent, Llanelli, Canol Caerdydd a Gogledd Caerdydd yn oriau man y bore ar ôl diwrnod y bleidlais.
Ond methodd y blaid a chipio Gorllewin Clwyd na chwaith Aberconwy pan gyhoeddwyd canlyniadau rhanbarth gogledd Cymru brynhawn ddoe.
Y canlyniad terfynol oedd 30 Aelod Cynulliad Llafur, 14 o’r Ceidwadwyr, 11 o Blaid Cymru a 5 Aelod o’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Ar yr un pryd collodd Plaid Cymru bedair sedd ac awgrymodd yr Aelod Cynulliad, Rhodri Glyn Thomas, nad oedd archwaeth ar gyfer pedair blynedd arall o glymblaid â Llafur.
Y Democratiaid Rhyddfrydol fyddai’r unig glymblaid arall posib, ond mae eu cwymp nhw mewn cefnogaeth, a’u clymblaid gyda’r Ceidwadwyr yn San Steffan, yn gwneud hynny’n llai tebygol.
“Dros y dyddiau nesaf fe fydd pob un o’r pleidiau yn ystyried beth yw’r dewisiadau sy’n agored iddyn nhw,” meddai’r darpar Brif Weinidog, Carwyn Jones.
“Mae’r gwrthbleidiau wedi cael siom ac mae angen i bethau setlo cyn iddyn nhw ddechrau meddwl am y dyfodol.”
Beth sy’n digwydd nesaf?
Bydd y Cynulliad yn cyfarfod yn ystod yr wythnos yn dechrau ddydd Llun i ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
Yna, bydd gan Aelodau’r Cynulliad 28 diwrnod i ethol Prif Weinidog. Bydd y Llywydd yn argymell i’r Frenhines y dylai’r Aelod a enwebwyd gan y Cynulliad gael ei benodi’n Brif Weinidog.
Yn ogystal â phenodi Prif Weinidog, bydd rhaid i Aelodau’r Cynulliad benodi Aelodau i’r Pwyllgor Busnes, penodi Comisiynwyr y Cynulliad, penderfynu ar enwau a chylchoedd gorchwyl y pwyllgorau, a phenderfynu ar aelodau a chadeirydd pob pwyllgor.
“Mae pobl Cymru wedi pleidleisio a nawr rydym yn gwybod pwy fydd yn cynrychioli Cymru yn y Cynulliad hwn,” meddai Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad.
“Bydd y 60 Aelod hyn nawr yn helpu i lunio dyfodol Cymru ar ran eu hetholwyr, a byddant yn gallu gwneud hynny mewn modd mwy effeithiol o ganlyniad i gymhwysedd deddfwriaethol ehangach y Cynulliad.
“Bydd y Cynulliad hwn yn anelu at ymgysylltu yn fwy effeithiol nag erioed o’r blaen gydag ystod o gymunedau ledled Cymru drwy waith ein pwyllgorau a’n system ddeisebau, gan ddefnyddio ystod o sianelau cyfathrebu.”