Blwyddyn newydd dda i chi! Ac i bawb sydd yn y tŷ…
Maen flwyddyn newydd ac un sy’n addo bod yn un cyffrous i Gymru. Mae gyda ni ddau refferendwm ac un etholiad o’n blaenau ni, a hynny o fewn y pum mis nesaf! Ond mae hi hefyd yn addo bod yn flwyddyn anodd iawn i nifer yng Nghymru, wrth i’r toriadau ariannol ddechrau brathu o ddifri’. Dyma fy mhroffwydoliaethau i ar gyfer 2011 felly. Croeso i chi ddychwelyd o fewn blwyddyn a chwerthin ar fy mhen am eu bod nhw i gyd yn anghywir…
Diwedd ar yr eira
Bydd yr eira mawr yn dychwelyd dros y ddeufis nesaf, gan achosi problemau mawr i gynghorau sydd eisoes yn brin o raean. Serch hynny, dyma’r olaf o’r eira fyddwn ni yn ei weld eleni. Bydd y gwleidyddion a’r awdurdodau lleol yn paratoi am aeaf mawr eto cyn diwedd y flwyddyn, ac yn prynu dwywaith cymaint o raean… ond ni fydd pluen eira yn disgyn.
Cymru yn dweud ‘Ie’
Er gwaethaf rhybuddion Comisiwn Cymru Gyfan nad yw buddugoliaeth yn sicr, a phryderon Peter Hain, fe fydd Cymru yn pleidleisio o blaid mwy o bwerau datganoli ar y 3ydd o Fawrth, a hynny o fwyafrif iach. Bydd y Blaid Lafur yn cymryd y clod am y fuddugoliaeth ac yn datgan ei fod o’n ergyd i’r Llywodraeth yn San Steffan gan bobol Cymru.
Prydain yn dweud ‘na’ – i’r bleidlais amgen
Bydd yr ymgyrch o blaid newid i’r system gyntaf heibio’r postyn i’r system bleidlais amgen yn methu ag argyhoeddi pobol Prydain bod angen y newid. Bydd y bleidlais ‘Ie’ yn cario’r dydd yng Nghymru a’r Alban, sydd wedi arfer gyda sustemau pleidleisio cyfrannol, ond yn methu o drwch blewyn yn Lloegr. Bydd hyn yn arwain at hollt mawr o fewn y Democratiaid Rhyddfrydol.
Etholiad da i Lafur
Bydd y Blaid Lafur yn ail-ennill rywfaint o’i chefnogaeth ar draws Cymru, ac yn cipio dwy neu dair sedd ychwanegol. Bydd y Ceidwadwyr yn ennill rhywfaint o dir oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol. Bydd Plaid Cymru yn gwrthod ceisio atgyfodi’r glymblaid enfys, yn sgil pryderon ynglŷn â phoblogrwydd Llywodraeth San Steffan. Fe fyddwn nhw’n aros mewn clymblaid gyda’r Blaid Lafur, ac yn cynhyrchu dogfen i olynu Cymru’n Un. Bydd Ron Davies yn awgrymu’r enw ‘Cymru Ymlaen’.
Rhyfel yn Korea
Bydd De a Gogledd Korea yn mynd i ryfel, ar ôl i China awgrymu na fyddai’n ymyrryd. Bydd yr Unol Daleithiau yn penderfynu anfon milwyr ond Prydain a gwledydd eraill yn gwrthod. Yn wahanol i ryfeloedd Irac af Afghanistan fe fydd hon yn rhyfel byr, ond hynod o dreisgar. Bydd cannoedd o filoedd wedi marw ar ddiwedd tri mis ffyrnig o frwydro, y rhan fwyaf yn ddinasyddion wedi eu gorfodi i’r frwydr gan fyddin Gogledd Korea. Serch hynny, De Korea fydd yn ennill y dydd ac erbyn diwedd y flwyddyn bydd y gwledydd yn un unwaith eto.
Ed Miliband yn priodi
Bydd Ed Miliband yn gweld y lles y bydd priodas William a Kate yn ei wneud i ddelwedd y Teulu Brenhinol ac yn penderfynu gofyn i’w bartner, Justine Thornton, ei briodi. Ond ni fydd yn gofyn i’w frawd, David Miliband, fod yn was priodas, ac fe fydd y wasg yn gwneud mor a mynydd o hynny.
Cyfnod anodd i’r Glymblaid
Bydd y Glymblaid yn San Steffan yn mynd trwy ei chyfnod anoddaf yn 2011. Bydd y toriadau’n brathu o ddifri ond ni fydd yr economi yn tyfu’n ddigon cyflym eto i argyhoeddi pobol bod y Llywodraeth wedi gwneud y penderfyniad cywir drwy dorri’n ôl mor fuan. Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol mewn trafferth, yn amhoblogaidd yn y wlad ac wedi colli’r refferendwm ar y bleidlais amgen. Bydd ambell i aelod blaenllaw o’r blaid, Simon Hughes efallai, yn herio Nick Clegg yn agored. Serch hynny, daw haul ar fryn erbyn diwedd y flwyddyn wrth i’r hinsawdd economaidd ddechrau gwella a bydd Clegg yn cael clod am ddal y cyfan at ei gilydd.
Palin ar y blaen
Fe fydd Sarah Palin a Mitt Romney yn datgan eu bod nhw’n barod i herio Barack Obama yn yr etholiad yn 2012. Serch hynny bydd yr Arlywydd yn dechrau gwneud mwy o argraff ar bobol yr Unol Daleithiau wrth i’r trafferthion economaidd leddfu chwaneg. Erbyn diwedd y flwyddyn bydd Sarah Palin yn ffefryn i sicrhau enwebiad y Gweriniaethwyr ond polau piniwn cenedlaethol yn awgrymu na fydd hi’n maeddu Obama yn 2012.