Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru wedi gwario miloedd ar rentu dodrefn ar gyfer pobol ordew, yn ôl ffigyrau a ddatgelwyd heddiw.
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig fe fydden nhw wedi gallu arbed miloedd drwy brynu’r dodrefn a’u defnyddio tro ar ôl tro.
Mae’r ffigyrau yn dangos bod Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi gwario £26,000 ar gadeiriau, £70,000 ar welyau, a £4,900 ar doiledau ar gyfer pobol sy’n dioddef o ordewdra.
Pe baen nhw wedi prynu yn hytrach nag rhentu’r dodrefn fe fyddennhw wedi arbed digon i brynu 77 cadair, naw gwely a 18 toiled arall, meddai’r Ceidwadwyr.
“Mae’r ffigyrau yn awgrymu bod byrddau iechyd lleol yn ystyried cyllideb bob blwyddyn ar ei ben ei hun ac yn rhentu offer arbenigol pan ddylen nhw fod yn prynu, ac arbed miloedd o bunnoedd bob blwyddyn,” meddai Nick Ramsay, llefarydd iechyd yr wrthblaid.
Mae bron i un o bob tri o bobol Cymru yn dioddef o ordewdra. Mae’r broblem ar ei waethaf ym Mlaenau Gwent, Rhondda Cynon Taf a Chaerffili.