2011-01-07 15:30:44.127
Dream Alliance yn ôl yng Nghas-gwent
Fe fydd enillydd diwethaf Grand National Cymru yn dychwelyd i faes ei gamp enwog fory i geisio ail-adrodd hanes.
Mae’r trefnwyr yn hyderus y bydd ras fwya’ Cymru yn mynd yn ei blaen ar yr ail gynnig, er gwaetha’ ychydig ofnau am y tywydd y bore yma.
Fe ennillodd Dream Alliance Grand National Cymru yn 2009 lai na dwy flynedd ar ôl dod yn agos at gael ei roi i lawr.
Torri tennyn
Fe dorrodd dennyn yn y Grand National yn Aintree yn 2008 a dim ond triniaeth bôn gelloedd a lwyddodd i’w achub.
Ond roedd criw o 23 o bobol leol yng Nghefn Fforest ger y Coed Duon, sy’n berchnogion ar Dream Alliance, wedi talu £20,000 am lawdriniaeth flaengar i achub ei yrfa.
Er iddo ennill yng Nghas-gwent yn 2009 mae’r ceffyl wedi cael trafferth cynnal ei lwyddiant ac mae wedi methu â gorffen ei dair ras ddiweddaraf.
Bwcis
Mae ei berfformiadau diweddar yn cael eu hadlewyrchu yn ei bris betio gyda nifer o’r bwcis yn ei osod ar 14/1.
Bu’n rhaid gohirio Grand National Cymru 2010 o’r dyddiad gwreiddiol ar 27 Rhagfyr oherwydd y tywydd gaeafol.
Fe fydd Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC, Tony McCoy, yn cystadlu ar gefn y ffefryn Synchronised.
Llun: Y ffefryn – A.P. ‘Tony’ McCoy (pbase CCA 3.0)
← Stori flaenorol
Cefnogaeth drawsbleidiol yn Nhŷ’r Arglwyddi i gadw 650 o ASau yn Nhŷ’r Cyffredin
Ond “Cymru yn cael ei tharo’n fwyaf llym,” meddai’r Arglwydd Hain.
Stori nesaf →
Disgwyl cyhoeddiad am Gadeirydd S4C
Enid Rowlands yw’r enw yn ôl ffynonellau o fewn y byd darlledu
Hefyd →
‘Angen mwy o arian’ i atal achosion E.coli
Bydd angen gwario o leiaf £2.5 miliwn yn ychwanegol bob blwyddyn er mwyn atal ymlediad E.coli arall fel yr un a laddodd bachgen pum mlwydd oed yn 2005, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw.
Daliodd 157 o bobl E.coli O157 mewn 44 o ysgolion y Cymoedd yn 2005. Roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw yn blant ac fe fu farw un bachgen pum mlwydd oed, Mason Jone.
Cyhoeddwyd adroddiad yr Athro Hugh Pennington i’r achos fis Mawrth diwethaf ac mae’r adroddiad diweddaraf yn adrodd ar y cynnydd fu ers hynny.
Yn ôl yr adroddiad bydd angen rhwng £ 2.5 miliwn a £3 miliwn o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru bob blwyddyn am y pum mlynedd nesaf, er mwyn gwireddu argymhellion ymchwiliad cyhoeddus yr Athro Hugh Pennington.
‘Dysgu Gwersi’
Mae’r adolygiad yn beirniadu Llywodraeth y Cynulliad am beidio â dysgu mwy o wersi yn sgil yr ymchwiliad a gostiodd £2.3 miliwn.
Er bod y cyllid ar gyfer darparu diogelwch bwyd yn dynn, dyw bygythiad E.coli O157 “ddim yn mynd i newid,” meddai’r Athro cyn ychwanegu fod ei “atal yn hollbwysig”.
Dywedodd mam Mason Jones, Sharon Mills, fod yn rhaid i Lywodraeth y Cynulliad “ofyn ydyn nhw wedi gwneud popeth o fewn eu gallu er mwyn diogelu pobl Cymru.”
"Mae’r adroddiad hwn yn dangos fod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud, ond mae yna lot i’w wneud eto. Dyna pam fod arian yn hanfodol,” meddai.
Fe wnaeth ymchwiliad cynharach gan yr Athro Pennington i achosion E.coli yr Alban yn 1996 arwain at wario £2.6 miliwn yn ychwanegol bob blwyddyn ar iechyd amgylcheddol.
Ymateb y Llywodraeth
Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad eu bod nhw’n “gwrthod y cyhuddiad” nad oedden nhw wedi gwneud digon er mwyn gwireddu argymhelliad yr adroddiad.
“Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi sicrhau bod yr ymateb i’r adroddiad ac achosion cychwynnol 2005 wedi’i chydlynu’n effeithiol,” meddai llefarydd.
Fodd bynnag, mae Llywodraeth y Cynulliad yn cydnabod y “pwysau ariannol ar awdurdodau lleol” ac yn datgan y bydd gwariant cyhoeddus yn “her” yn y dyfodol ac y bydd angen “cydweithio er mwyn diogelu gwasanaethau”.