Mae perchennog tafarn yn Ne Affrica wedi ei gyhuddo o ddynladdiad wedi i 10 person farw yno wrth ddathlu’r Flwyddyn Newydd.

Fe fu farw saith dyn a tair merch, rhwng 18 a 25 oed, yn y dafarn yn nhref Ipelegeng yn nhalaith wledig Gogledd Orllewin De Affrica.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod James Lepholletse, 47, wedi ei arestio ddoe ac fe fydd yn wynebu cyhuddiad o ladd drwy esgeulustod yn y llys ddydd Gwener.

Yn ôl yr heddlu roedd llygaid dystion yn honni bod y perchennog wedi saethu dryll y tu ôl i’r bar er mwyn annog cwsmeriaid i adael.

Arweiniodd hynny at ruthr am yr allanfa ac fe fu 10 o bobol farw yn y wasgfa. Mae’r heddlu yn parhau i ymchwilio.