Mae Cymraes sy’n byw a gweithio ym Mryste wedi dweud wrth Golwg360 nad yw’n teimlo’n ddiogel yn ei fflat ei hun yn dilyn llofruddiaeth merch ifanc yn y ddinas.

Heddiw rhybuddiodd yr Heddlu na ddylai merched yn y ddinas gerdded adref ar eu pennau eu hunain.

Daethpwyd o hyd i gorff Joanna ar ddydd Nadolig yn Longwood Lane, Failand. Roedd hi wedi bod ar goll ers dydd Gwener, 17 Ragfyr.

Heddiw dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Jin Stratford ei fod o’n “deall pam bod y cyhoedd yn Clifton ac ardal ehangach Bryste yn pryderu am eu diogelwch. Mae lladdwr Jo yn rhydd o hyd”.

‘Chwarae ar fy meddwl’

“Ers i mi ddod yn ôl i Fryste, ar ôl treulio’r Nadolig gartref, dw i wedi deffro dwywaith yn ystod y nos gan feddwl fod yna rywun yn y fflat,” meddai Emma Woodhall, Cymraes o’r Felinheli, sy’n byw yn ardal St. Pauls, Bryste.

“Dw i’n dechrau yn ôl yn y gwaith yfory ond dydw i ddim yn edrych ymlaen. Bydd rhaid i mi gerdded adref ar fy mhen fy hun.

“Dw i am drio cerdded yn ôl ar hyd ffordd sy’n fwy golau neu fynd â ffrind,” meddai wrth Golwg 360.

“Dim ots lle wyt ti ym Mryste mae’n bosib bod y lladdwr yno – dydw i ddim yn teimlo’n saff yn fy fflat fy hun. Mae’n chwarae ar fy meddwl,” meddai cyn dweud ei bod yn bwriadu “cadw mewn cysylltiad gyda’i chariad (sydd hefyd yn byw a gweithio ym Mryste) wrth fynd o un lle i’r llall”.

“Dw i wedi trio peidio siarad â fy rhieni am y peth. Dydw i ddim am iddyn nhw boeni, er eu bod nhw’n gwybod beth sy’n mynd ymlaen yma.

Heddlu

Dywedodd yr heddlu heddiw “nad oes unrhyw wybodaeth benodol sy’n awgrymu fod bygythiad i ddiogelwch” pobol Bryste.

“Fe ddylai menywod osgoi cerdded adref ar eu pennau eu hunain ar ôl iddi dywyllu. Fe ddylen nhw hefyd gadw’u tai yn ddiogel a chymryd gofal wrth ateb y drws i ddieithriaid,” meddai John Stratford o’r Heddlu.

Dywedodd yr Heddlu y byddwn nhw’n gwneud yn siŵr bod rhagor o heddweision i’w gweld yn ardal Clifton.