Mae yna fwy nag 200 stryd yng Nghymru a Lloegr ble mae tai yn costio mwy nag £1m ar gyfartaledd, yn ôl ymchwil newydd gyhoeddwyd heddiw.
Heol Llahtrithyd Sain Hilari ym Mro Morgannwg yw’r mwyaf costus yng Nghymru. Mae tai yno yn costio £789,000 ar gyfartaledd.
Parkside, yn ardal SW19 Llundain, yw’r drutaf yn y wlad. Mae tŷ yno yn costio £5 miliwn ar gyfartaledd, yn ôl ymchwil Lloyds TSB.
Mae tai ar strydoedd Wycombe Square, Blenheim Crescent, Mallord Street a Drayton Gardens, pob un yn Kensington a Chelsea, yn costio rhwng £4 miliwn a £4.4 miliwn ar gyfartaledd.
Mae dros hanner y 20 stryd drutaf yng Nghymru a Lloegr yn Kensington a Chelsea, ac mae bob un ond dwy yn Llundain Fawr.
Woodlands Road West yn Virginia Water, Surrey, yw’r stryd drutaf y tu allan i Lundain, ac yna Burkes Road yn Beaconsfield, Swydd Buckingham.
Ar y cyfan mae yna 228 stryd yng Nghymru a Lloegr ble mae tai yn costio dros £1 miliwn, ac mae 26 yn costio dros £2 miliwn.
“Nid yw’n syndod bod y strydoedd drutaf yng Nghymru a Lloegr yn Llundain,” meddai Nitesh Patel, economegydd tai Lloyds TSB.
“Mae cael byw ynghanol Llundain yn denu enwogion cyfoethog a dynion busnes o dramor.”