Roedd hi’n ddiwrnod da i Andy Powell ond yn un drwg i Gavin Henson yn Uwch Gynghrair Aviva Lloegr ddoe.

Andy Powell oedd seren y gêm wrth i Wasps faeddu Newcastle 33-16 yn Adams Park a dringo uwchben London Irish i’r pedwar uchaf.

Ond methodd Henson a gwneud dim i argyhoeddi hyfforddwyr Cymru y dylai gael ei ddewis yn sgwad y Chwe Gwlad wrth i Saracens golli 28-22 yn erbyn Sale.

Cafodd Henson ei eilyddio ar ôl 53 munud yn Edgeley Park ar ôl cyffwrdd y bêl tair gwaith yn unig yn ystod y gêm.

“Ni welodd Gavin lot o’r bêl,” cyfaddefodd hyfforddwr Saracens, Mark McCall. “Roedd rhaid iddo wneud rywfaint o waith amddiffyn.

“Roedden nhw ar y droed flaen, yn ein hanner ni drwy fydol yr hanner cyntaf.”

Dywedodd cyfarwyddwr rygbi Wasps, Tony Hanks, ei fod yn teimlo bod Andy Powell yn dechrau chwarae ar ei orau gyda nhw.

“Pan mae’n hapus mae yn chwarae yn dda,” meddai Tony Hanks. “Rydym ni’n rhoi rhwydd hynt i Powell chwarae fel mae eisiau.”