Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio ar ôl dod o hyd i gorff yng Nghasnewydd.

Daethpwyd o hyd i gorff dyn 59 blwydd oed toc cyn hanner dydd ddoe.

Cafodd ffordd yr A449 tua’r gogledd ei gau am gyfnod byr wrth i’r ymchwiliad barhau.

Nid yw’r Heddlu yn ystyried y farwolaeth yn amheus ond maen nhw’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu a welodd lori Scania ar y ffordd i gysylltu â nhw ar 01633 838 111.