Mae nifer o wrandawyr opera sebon radio The Archers wedi mynegi eu siom yn dilyn digwyddiadau’r rhaglen i ddathlu 60ain pen-blwydd y gyfres neithiwr.
Roedd golygydd y gyfres, Vanessa Whitburn, wedi gado y byddai digwyddiadau’r episod yn “ysgwyd Ambridge i’w graidd”.
Ond mae nifer o wrandawyr selog y gyfres, sydd wedi bod yn darlledu ers 1 Ionawr 1951, wedi cwyno nad wnaeth yr episod dyngedfennol gwrdd â’u disgwyliadau.
Ar ddiwedd yr episod disgynnodd un o’r cymeriadau, Nigel Pargetter (dde), o do tŷ wrth geisio tynnu banner yn dathlu’r Flwyddyn Newydd i lawr.
Doedd dim awgrym ar y pryd a ydi o wedi goroesi ai peidio, ond wrth siarad ar raglen Today Radio 4 bore ma awgrymodd Vanessa Whitburn ei fod o wedi marw.
“Roeddwn i wedi clywed fod yr episod yn ‘ysgwyd Ambridge i’r craidd’? Rhaid i mi ddweud fy mod i’n siomedig iawn,” ysgrifennodd un cyfrannwr ar fforwm drafod y wefan swyddogol.
Dywedodd cyfrannwr arall bod yr episod yn “wael iawn”.
Amddiffynnodd y golygydd y penderfyniad i ladd un cymeriad yn unig gan ddweud y byddai lladd sawl un o drigolion y pentref wedi bod yn “chwerthinllyd”.
Wrth siarad ar raglen Today Radio 4 dywedodd y byddai gan gwymp Nigel Pargetter “ganlyniadau difrifol”.