Mae’r actor o Loegr, Pete Postlethwaite, wedi marw yn 64 oed.
Enillodd enwebiad am Oscar am ei ran yn y ffilm In the Name of the Father yn 1993.
Roedd hefyd yn adnabyddus am ei ran yn y ffilmiau The Usual Suspects, Alien 3, Amistad, Brassed Off, The Shipping News, The Constant Gardener, Inception a Romeo + Juliet.
Roedd wedi derbyn triniaeth ar ôl darganfod ei fod yn dioddef o ganser y gaill yn 1990.
Ganwyd ef yn Warrington, Swydd Gaer. Mae’n gadael gwraig, Jackie, a dau o blant, William a Lily.