Mae’r heddlu wedi arestio dyn yn dilyn ymosodiad rhyw ar ddynes 23 oed yng ngogledd Corneli ger Porthcawl.

Roedd hi ar ei ffordd gartref pan ddigwyddodd yr ymosodiad ger Greenfield Terrace.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod dyn 20 oed wedi ei arestio ac yn y ddalfa.

Nid yw’r heddlu yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r mater.