Mae swyddogion bywyd gwyllt yn yr Unol Daleithiau yn ymchwilio ar ôl i dros 1,000 o adar du syrthio yn farw dros dref yn nhalaith Arkansas.

Dywedodd Comisiwn Helwriaeth a Physgod Arkansas eu bod nhw wedi derbyn y galwadau cyntaf am adar marw yn Beebe, 40 milltir o Little Rock, prifddinas Arkansas, tua 11.30pm nos Wener.

Mae’r comisiwn eisoes wedi casgluy cyrff 65 o’r adar marw.

Daethpwyd o hyd i gyrff yr adar o fewn ardal tua milltir o led, a does yr un aderyn du marw wedi disgyn y tu allan i’r ardal honno.

Dywedodd adaregydd y comisiwn, Karen Rowe, bod anafiadau’r adar yn awgrymu eu bod nhw i gyd wedi eu taro gan “fellten neu genllysg”.

Roedd hi hefyd yn dyfalu bod tân gwyllt yn ystod dathliadau’r Flwyddyn Newydd wedi dychryn yr adar.

Dywedodd Karen Rowe bod profion am beth achosodd marwolaethau adar “fel arfer yn amhendant”.