Mae Arlywydd De Korea wedi cymharu ymosodiad Gogledd Korea ar Ynys Yeonpyeong fis Tachwedd gyda thrychineb Medi’r unfed ar ddeg yn yr Unol Daleithiau.

Mae wedi dweud y bydd rhaid i’r De gryfhau eu hamddiffynfeydd ac na allan nhw adael i’r Gogledd ennill “modfedd” o’i thir.

Fe ddywedodd Arlywydd Lee Myung-bak mewn araith fod ymosodiad y Gogledd ar Ynys Yeonpyeong wedi “trawsnewid” De Korea.

Ond fe gynigodd bosibilrwydd ar gyfer trafodaethau heddwch hefyd drwy ddweud fod gan Dde Korea yr “ewyllys a’r cynllun” i wella’r economi – os yw’r Gogledd yn dangos eu bod yn fodlon cael gwared ar ei harfau niwclear.

‘Yn ôl i’r dechrau’

“Ar ôl ymosodiadau terfysgol Medi 11, fe aeth yr Unol Daleithiau yn ôl i ddechrau o’r dechrau gan ddyfeisio strategaethau diogelwch cenedlaethol newydd, oherwydd bod diogelwch a sicrwydd pobl y wlad wedi dod o dan fygythiad,” meddai Lee Myung-bak.

“Mae’r hyn a ddigwyddodd yn Ynys Yeonpyeong hefyd wedi rhoi cyfle i ni ystyried ein diogelwch ein hunain,” meddai cyn dweud “na fydd oedi cyn sefydlu mesurau diogelwch cryfach.”

Mae Gogledd Korea yn ceisio hawlio’r dyfroedd o amgylch Ynys Yeonpyeong ac yn gwrthod cydnabod y ffin forwrol a osodwyd yn 1953 gan y Cenhedloedd Unedig ar ôl y rhyfel rhwng y ddwy wlad.

Llun: Senedd De Korea (frakorea CCA 3.0)