Fe ddaeth y Cymro, Mark Webster, yn agos at ennill lle yn rownd derfynol Pencampwriaeth Ddartiau’r Byd cyn colli yn y diwedd o 6-4.

Ar un adeg, roedd yntau ac Adrian Lewis o Stoke ysgwydd wrth ysgwydd ar 4-4 cyn i’r Sais ennill y ddwy set ola’ a thynnu’n glir.

Roedd y chwaraewr ifanc o Ddinbych wedi llwyddo i daro’n ôl ar ôl mynd 4-2 ar ei hôl hi ac ef oedd y gorau mewn rhai agweddau o’r chwarae.

Y manylion

Roedd yn fwy llwyddiannus wrth daro’r dwbwl – llwyddiant o 34% o’i gymharu â 31% i Lewis – ac fe sgoriodd fwy o 140au.

Dim ond un 180 yn fwy na Webster a gafodd Lewis ond roedd yn sgorio 100 yn fwy cyson – 61 o’i gymharu â 49 i’r Cymro.

Roedd Mark Webster wedi curo Phil Taylor, chwaraewr enwoca’r byd, yn rownd yr wyth ola’.

Llun: Mark Webster (gwefan y Bencampwriaeth)