Prestatyn 4 Dinas Bangor 2

Fe ddaeth rhediad diguro Bangor i ben yng ngêm gynta’r flwyddyn newydd wrth iddyn nhw golli 4-2 ym Mhrestatyn.

Roedd pethau wedi dechrau’n dda i dîm y ddinas wrth i Jamie Reed eu rhoi nhw ar y blaen yn gynnar.

Ond fe ildiodd Bangor ddwy gôl yn y chwarter awr ola’ i golli eu gêm gynta’ yn y Gynghrair y tymor hwn.

Roedd Prestatyn wedi taro’n ôl yn yr hanner cyntaf gyda goliau gan gyn-ffefryn Bangor, Lee Hunt, a Ross Stephens, i’w rhoi 2-1 ar y blaen ar yr egwyl.

Am gyfnod, roedd hi’n ymddangos bod ail gôl Reed wedi arbed pwynt i’r ddinas ond fe drawodd yr hen ben Steve Rogers ar y diwedd, gyda goliau ar ôl 77 ac 88 munud.

Llun: Y dathlu ar ben (o wefan y clwb)