Mae Heddlu’r Gogledd wedi arestio pedwar mewn cysylltiad â lladradau mewn dwy garej wedi’r Nadolig.

Fe gadarnhaodd y Ditectif Sarjiant Craig Adshead bod dau ddyn a dwy ddynes o ardal Dinbych wedi’u harestio a’u rhyddhau ar fechnïaeth.

Maen nhw hefyd wedi chwilio nifer o adeiladau yn ardal Dinbych yn dilyn y lladradau yn Garej Morrisons Dinbych gyda’r nos ar 28 Rhagfyr a Garej Dyffryn yn Rhuthun y noson ganlynol.

Gall pobol sydd â gwybodaeth am y digwyddiadau gysylltu’n ddienw â Taclo’r Tacle ar 0800 555 111 neu alw’r heddlu ar 101 neu 0845 6071001.